Cymru Fyd-eang
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol a chydweithredol at addysg uwch ryngwladol yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Colegau Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Mae Cymru Fyd-eang y dwyn ynghyd prifysgolion a cholegau â mudiadau partner Cymru Fyd-eang y tu ôl i un strategaeth i gynyddu proffil rhyngwladol, recriwtio a chyfleoedd partneriaeth ar gyfer prifysgolion a cholegau er budd myfyrwyr, sefydliadau a Chymru fel gwlad.
O 2022 ymlaen, caiff Cymru Fyd-eang ei ariannu drwy Taith - rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 a lansiwyd tua dechrau 2022.
Amcanion Cymru Fyd-eang 2022-2026 fydd:
- cynyddu niferoedd myfyrwyr o farchnadoedd rhyngwladol sydd wedi’u blaenoriaethu
- cynnal a thyfu partneriaethau mewn marchnadoedd rhyngwladol sydd wedi’u blaenoriaethu
- cynhyrchu enillion allforio ychwanegol o farchnadoedd sydd wedi’u blaenoriaethu
- cynyddu ymwybyddiaeth ac enw da prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru mewn marchnadoedd sydd wedi’i blaenoriaethu
Mae gan Gymru Fyd-eang wedi blaenoriaethu pedair marchnad:
- Ewrop
- Gogledd America
- India
- Fietnam
Mae Cymru Fyd-eang yn ymwneud â datblygu 'system i system', gan wneud y gorau o holl elfennau systemau addysg uwch ac addysg bellach Cymru (llywodraeth, rheoleiddio, sector) i ymateb yn gyflym ac yn arloesol i ofynion gwledydd partner.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei atgyfnerthu gan weithgareddau datblygu'r farchnad, yn amrywio o recriwtio a marchnata gan ddefnyddio brand Astudio yng Nghymru i brosiectau cynyddu capasiti, dirprwyaethau diplomyddol ac ymweliadau, yn ogystal ag amrywiaeth o ysgoloriaethau o fri, gan gynnwys rhaglen ysgoloriaeth arobryn Cymru Fyd-eang.
Bwrdd Cymru Fyd-eang
Mae Bwrdd Cymru Fyd-eang yn darparu cyfeiriad strategol i brosiect Cymru Fyd-eang, ac mae'n cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau sy’n bartneriaid Cymru Fyd-eang (Prifysgolion Cymru, Colegau Cymru, Llywodraeth Cymru, CCAUC, ac Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru).
Taith
O 2022 ymlaen, bydd Cymru Fyd-eang yn cael ei ariannu drwy Taith - rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 ac a lansiwyd yn gynnar yn 2022.
Mae’r rhaglen £65m wedi cael ei sefydlu i ariannu symudedd, tuag i mewn a thuag allan, myfyrwyr a staff mewn prifysgolion, addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, lleoliadau gwaith ieuenctid ac ysgolion.
Mae croestoriad clir rhwng amcanion Cymru Fyd-eang a nodau Taith o ran darparu cyfleoedd rhyngwladol i ddysgwyr, cefnogi partneriaethau rhyngwladol a chodi proffil rhyngwladol Cymru.