Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru’n codi proffil ymchwil ac arloesedd prifysgolion yng Nghymru, yn hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol, ac yn ei gwneud yn haws i brifysgolion Cymru ffurfio partneriaethau a rhannu seilwaith ac arbenigedd.
Rydym yn hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion yng Nghymru, gan harneisio amrywiaeth ymchwil ac arloesedd yng Nghymru i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Datblygwyd ein themâu trwy nodi cryfderau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, gan gynnwys:
- Trawsnewid digidol
- Sero Net a datgarboneiddio
- Technoleg amaeth a’r economi wledig
- Diwydiannau creadigol a'r cyfryngau
- Iechyd y boblogaeth a biotechnoleg
- Deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion)