Egwyddorion ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru
Mae pob prifysgol yng Nghymru sy'n recriwtio'n rhyngwladol wedi cytuno ar set o egwyddorion ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru.
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn aelodau gwerthfawr o'n campysau a'n cymunedau. Trwy eu cyfraniadau mewn astudiaethau ac ymchwil, mae myfyrwyr rhyngwladol yn sicrhau bod ein prifysgolion yn parhau i fod ag ymagweddiad byd-eang, ac maent yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i gymunedau ledled Cymru. Trwy dreulio eu hamser yng Nghymru, maent yn cyfoethogi gwead ein cymdeithas, yn rhannu eu profiadau eu hunain, ac yn cryfhau ein cysylltiadau â gwledydd ledled y byd.
Wrth astudio gyda ni maent yn dod i adnabod Cymru, ei phobl a’i lleoedd, ac yn cario’r ymdeimlad hwnnw o leoliad gyda nhw drwy gydol eu hoes.
Mae prifysgolion yng Nghymru eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y rhai sy’n dewis dod i astudio yng Nghymru’n teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi; hefyd eu bod yn cael y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnynt cyn iddynt ymuno â ni a thra byddant yma.
Rydym wedi datblygu'r set hon o egwyddorion sy'n amlinellu rhai o'r amryw ffyrdd y bydd prifysgolion yn cefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol.
Gallwch lawrlwytho'r egwyddorion hyn isod.