Amdanom
Mae Prifysgolion Cymru yn gorff aelodaeth sy'n cynrychioli buddiannau’r naw prifysgol sydd yng Nghymru.
Rydym yn datblygu polisi addysg uwch, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn ymgyrchu ar faterion lle mae gan ein haelodau fuddiannau a rennir.
Mae ein gwaith yn cwmpasu Cymru Fyd-eang a Rhwydwaith Arloesi Cymru - gan fod y naill a’r llall yn rhan o Brifysgolion Cymru.
Ein cennad
Ein cennad yw cynnig cymorth i system addysg prifysgol sy'n trawsnewid bywydau trwy'r gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru’n ei wneud gyda phobl a lleoedd Cymru a'r byd ehangach.
Mae Prifysgolion Cymru yn gweithio'n annibynnol fel rhan o Brifysgolion y DU.
Ein prifysgolion
Mae Cymru yn gartref i sector prifysgol bywiog ac amrywiol o safon fyd-eang, sydd â'r potensial i drawsnewid bywydau.
Rydym yn gweithio i hyrwyddo a chynnig cefnogaeth i brifysgolion Cymru, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Ein haelodau
Mae ein haelodaeth yn cynnwys is-gangellorion pob prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae aelodau Prifysgolion Cymru yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sy'n ymwneud ag addysg uwch yng Nghymru, ac i benderfynu ar safbwyntiau a gweithredoedd ar y cyd.
Ein Cadeirydd yw'r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe. Ein His-Gadeirydd yw'r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam.