Mae Cymru Fyd-eang y dwyn ynghyd prifysgolion a cholegau â mudiadau partner Cymru Fyd-eang y tu ôl i un strategaeth i gynyddu proffil rhyngwladol, recriwtio a chyfleoedd partneriaeth ar gyfer prifysgolion a cholegau er budd myfyrwyr, sefydliadau a Chymru fel gwlad.

O 2022 ymlaen, caiff Cymru Fyd-eang ei ariannu drwy Taith - rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 a lansiwyd tua dechrau 2022.

Amcanion Cymru Fyd-eang 2022-2026 fydd:

  • cynyddu niferoedd myfyrwyr o farchnadoedd rhyngwladol sydd wedi’u blaenoriaethu
  • cynnal a thyfu partneriaethau mewn marchnadoedd rhyngwladol sydd wedi’u blaenoriaethu
  • cynhyrchu enillion allforio ychwanegol o farchnadoedd sydd wedi’u blaenoriaethu
  • cynyddu ymwybyddiaeth ac enw da prifysgolion a cholegau addysg bellach Cymru mewn marchnadoedd sydd wedi’i blaenoriaethu

Mae gan Gymru Fyd-eang wedi blaenoriaethu pedair marchnad: 

  • Ewrop
  • Gogledd America
  • India 
  • Fietnam

Mae Cymru Fyd-eang yn ymwneud â datblygu 'system i system', gan wneud y gorau o holl elfennau systemau addysg uwch ac addysg bellach Cymru (llywodraeth, rheoleiddio, sector) i ymateb yn gyflym ac yn arloesol i ofynion gwledydd partner. 

Mae’r gwaith hwn yn cael ei atgyfnerthu gan weithgareddau datblygu'r farchnad, yn amrywio o recriwtio a marchnata gan ddefnyddio brand Astudio yng Nghymru i brosiectau cynyddu capasiti, dirprwyaethau diplomyddol ac ymweliadau, yn ogystal ag amrywiaeth o ysgoloriaethau o fri, gan gynnwys rhaglen ysgoloriaeth arobryn Cymru Fyd-eang.

Bwrdd Cymru Fyd-eang
Mae Bwrdd Cymru Fyd-eang yn darparu cyfeiriad strategol i brosiect Cymru Fyd-eang, ac mae'n cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau sy’n bartneriaid Cymru Fyd-eang (Prifysgolion Cymru, Colegau Cymru, Llywodraeth Cymru, CCAUC, ac Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru).


Global Wales logo

A map of the world with lots of blue pins marking locations

Taith

O 2022 ymlaen, bydd Cymru Fyd-eang yn cael ei ariannu drwy Taith - rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 ac a lansiwyd yn gynnar yn 2022.

Mae’r rhaglen £65m wedi cael ei sefydlu i ariannu symudedd, tuag i mewn a thuag allan, myfyrwyr a staff mewn prifysgolion, addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, lleoliadau gwaith ieuenctid ac ysgolion.  

Mae croestoriad clir rhwng amcanion Cymru Fyd-eang a nodau Taith o ran darparu cyfleoedd rhyngwladol i ddysgwyr, cefnogi partneriaethau rhyngwladol a chodi proffil rhyngwladol Cymru.