Rhaglen fentora beilot T-Hub a Cymru Fyd-eang
Mae Cymru Fyd-eang wedi lansio rhaglen fentora beilot dri-mis ar y cyd â T-Hub, campws arloesi busnesau newydd mwyaf y byd. Nod y fenter yw cefnogi a hybu'r diwydiant busnesau newydd yn Telangana, India drwy feithrin arloesedd, entrepreneuriaeth a chyfnewid gwybodaeth.
29 August 2023
Dewiswyd dwy prifysgol yng Nghymru ac un coleg addysg bellach i gymryd rhan yn y rhaglen: Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Grŵp Colegau NPTC. Drwy eu harbenigedd a'u harweiniad, nod y rhaglen fydd grymuso a meithrin y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Mae’r rhaglen fentora yn canolbwyntio ar dri sector allweddol sydd â photensial ar gyfer twf ac effaith yng Nghymru ac India: cerbydau trydan (EV), technoleg iechyd, a thechnoleg. Drwy ganolbwyntio ymdrechion yn y meysydd hyn, nod y rhaglen yw ysgogi arloesedd a chreu ecosystem ffafriol ar gyfer llwyddiant busnesau newydd.
Mae 14 o fusnesau newydd wedi’u dewis gan Gymru Fyd-eang a T-Hub i gymryd rhan yn y rhaglen fentoriaeth hon, yn cynrychioli ystod amrywiol o syniadau a datrysiadau arloesol. Mae'r busnesau newydd ar gamau gwahanol o dwf o ran datblygu eu syniad, rhai yn barod i'r farchnad a rhai’n dal i fod wrthi’n creu syniadau. Byddant yn cael y cyfle i elwa ar ddoethineb ac arweiniad cyfunol arbenigwyr o Gymru, T-Hub a’u rhwydwaith o gysylltiadau, gan eu galluogi i fireinio eu modelau busnes, gwella eu strategaethau, a datgloi eu llawn botensial.
Fel rhan o'r rhaglen hon, bydd myfyrwyr o Gymru’n cael y cyfle unigryw i ymgymryd ag interniaethau gyda'r busnesau newydd datblygedig sy'n gysylltiedig â T-Hub. Bydd y cyfle dysgu gwerthfawr hwn yn galluogi myfyrwyr i gael mewnwelediadau i’r byd go-iawn, cyfrannu at dwf busnesau newydd, ac ehangu eu persbectif byd-eang. Bydd yr interniaethau hyn ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd 2023-24, lle bydd myfyrwyr yn gallu ymgysylltu naill ai'n rhithwir neu wyneb-yn-wyneb yn India, gan feithrin cydweithrediad rhyngwladol a chyfnewid diwylliannol.
Mae potensial y rhaglen fentora hon nid yn unig yn cryfhau’r ecosystem entrepreneuraidd yn Telangana ond hefyd yn grymuso myfyrwyr yng Nghymru i gael profiad ymarferol yn y sector cychwyn busnes deinamig. Drwy eu harbenigedd a'u harweiniad, nod y rhaglen fydd grymuso a meithrin y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Meddai Dr Tim Bashford o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, un o fentoriaid y rhaglen:
“Mae ein profiad o weithio gyda rhai o’r busnesau newydd blaengar sydd wedi’u lleoli yn T-Hub hyd yn hyn wedi bod yn rhagorol. Roedd yn bleser chwarae rhan mewn cynorthwyo’r cwmnïau cyffrous hyn tra’n creu cyfleoedd sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall. Gobeithiwn y bydd hyn yn ddechrau ar drefniadau cydweithredu hir a ffrwythlon.”
Dywedodd yr Athro Andrew Ware o Brifysgol De Cymru, a mentor rhaglen:
“Mae T-Hub yn darparu ecosystem ar gyfer arloesi a datblygu sydd â llawer i’w ddysgu i ni yng Nghymru. Bu gweithio gyda rhai busnesau newydd ardderchog i ymchwilio i’r ffordd orau o ddatblygu eu cynnyrch ac i fapio llwybrau i’r farchnad yn fuddiol i’r ddwy ochr.”
Meddai Anish Anthony, Prif Swyddog Cyflwyno T-Hub:
“Gyda gweithlu o 900 miliwn a’r mynediad rhataf at ddata, mae India ar hyn o bryd yn fagwrfa ar gyfer trawsnewid busnes, lle mae 35 o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu bob dydd. Mae'r rhaglen T-Hub gyda Chymru wedi'i chynllunio i roi profiad trochi gwych, a hynny ar y raddfa a'r amrywiaeth sydd gan India i'w cynnig. Mae T-Hub yn edrych ymlaen at fod yn bont rhwng y ddwy ecosystem”.
Dywedodd Wyn Prichard o Grŵp Colegau NPTC:
“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen fentora fel rhan o dîm Grŵp Colegau NPTC. Mae’r cwmnïau a’r unigolion y mae’n bleser gennym weithio gyda nhw’n dangos holl rinweddau’r hyn y gall busnes llwyddiannus fod, er bod pob un yn wahanol o ran math a chamau datblygu.”
Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru
“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r cydweithio hwn rhwng colegau, prifysgolion a T-Hub, partneriaeth a fydd yn cynorthwyo datblygiadau mewn cerbydau trydan, technoleg iechyd a digidol ar gyfer Cymru a Telangana.
“Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Grŵp Colegau NPTC a T-Hub am eu gwaith ar y rhaglen fentora hon. Bydd y rhaglen o fudd i fyfyrwyr, prifysgolion, colegau, a busnesau newydd yn India a Chymru, ac yn gatalydd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.”
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol a chydweithredol at addysg uwch ryngwladol yng Nghymru. Caiff Cymru Fyd-eang ei gyllido gan Lywodraeth Cymru trwy Taith.