Cyllido partneriaethau Cymru Fyd-eang ar gyfer prifysgolion a cholegau yng Nghymru - nawr ar agor
Mae Cymru Fyd-eang yn galw am geisiadau i gronfa newydd sydd â’r nod o geisio cefnogi partneriaethau rhyngwladol rhwng prifysgolion a cholegau Cymru a'u cymheiriaid yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd.
26 June 2024
Mae Cymru Fyd-eang yn galw am geisiadau i gronfa newydd sydd â’r nod o geisio cefnogi partneriaethau rhyngwladol rhwng prifysgolion a cholegau Cymru a'u cymheiriaid yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd.
Diben y gronfa yw rhoi cyfle i sefydliadau yng Nghymru ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy, hirdymor gyda phartneriaid rhyngwladol trwy gydweithio’n gyntaf ar gynllun tymor byr sy’n seiliedig ar ddeilliannau prosiect sydd o ddiddordeb/blaenoriaeth i'r naill ochr a’r llall. Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £5,000 ar gyfer pob prosiect.
Dylai fod gan brosiectau amcanion, gweithgareddau a deilliannau disgwyliedig wedi'u diffinio'n glir (y tu hwnt i sefydlu perthnasoedd ac archwilio meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol). Er enghraifft, gallai prosiectau:
-
gefnogi’r cynnydd mewn capasiti a/neu hyfforddiant,
-
canolbwyntio ar addysgu/cyflwyno ar y cyd,
-
cyflwyno gweithdai, symposia neu ddigwyddiadau.
Bydd gweithgareddau priodol eraill yn cael eu hystyried ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â'r amodau ar gyfer cyllido a amlinellir yn y Cylch Gorchwyl.
Y rhanbarthau a flaenoriaethwyd gan Gymru Fyd-eang yw:
-
USA
-
Canada
-
Fietnam
-
Karnataka, India
-
Telangana, India
Mae adborth gan randdeiliaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol wedi amlygu’r meysydd blaenoriaeth canlynol ar gyfer datblygu:
-
Trawsnewid digidol
-
Sero net, ynni gwyrdd a datgarboneiddio
-
Technoleg-amaeth a’r economi wledig
-
Diwydiannau creadigol a’r cyfryngau
-
Iechyd y boblogaeth a biodechnoleg
-
Deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion)
Bydd prosiectau sy'n canolbwyntio ar y meysydd hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllido, ond ni fydd ceisiadau sy'n canolbwyntio ar feysydd eraill yn cael eu hystyried yn anghymwys.
Manylion cyllido
Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £5,000 ar gyfer pob prosiect i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd. Bydd ymgeiswyr yn dewis maes ffocws (yn seiliedig ar y themâu a amlinellwyd uchod) ac yn cydweithio i gyflwyno prosiect tymor byr yn y maes hwnnw. Disgwylir i weithgareddau gael eu cynnal rhwng Awst a Rhagfyr 2024. Yna rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 24 Ionawr 2025.
Gellir gweld manylion llawn yr alwad yn y dogfennau Cylch Gorchwyl.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau a thempledi ar gyfer cyllideb ac amserlen i bill.burson@uniswales.ac.uk erbyn 14 Gorffennaf 2024.
Am ragor o wybodaeth neu i drafod yr alwad hon, cysylltwch â:
Bill Burson
Pennaeth Partneriaethau, Cymru Fyd-eang
E-bost: bill.burson@uniswales.ac.uk