Cymru Fyd-eang yn cynnal Fforwm Fulbright 2022
Yr wythnos hon cynhaliodd Cymru Fyd-eang “Fforwm Fulbright Cymru Fyd-eang”, sef dathliad o ysgolheigion Fulbright o bob rhan o’r DU (gan gynnwys saith o Gymru) a’n hysgolheigion Cymru Fyd-eang ein hunain.
3 May 2022
Ymunodd mwy na 90 o fyfyrwyr â’r fforwm, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dros eu tridiau yng Nghaerdydd.
Dechreuodd y rhaglen gyda gweithdai a gynhaliwyd gan Ganolfan Gydweithredol Cymru ar y dydd Mawrth, yn edrych ar “Broblemau Dyrys” sy’n gyffredin yng Nghymru a ledled y byd. Ddydd Mercher, ymwelodd myfyrwyr â'r Senedd gyda derbyniad a gynhaliwyd gan Heledd Fychan ASC, a sgwrs fyrfyfyr gan Lee Waters ASC. Daeth yr wythnos i ben ddydd Iau gyda myfyrwyr Fulbright yn rhannu eu hymchwil a’u profiadau yn y DU, cyn cymryd rhan mewn twmpath Cymreig traddodiadol gyda’r nos.
Meddai Alma Chavez, myfyriwr Fulbright, “A dweud y gwir, dyma un o’r wythnosau rwyf wedi’i mwynhau fwyaf ers i mi fod yng Nghymru... Pan ydw i yng Nghymru, mae'r awyrgylch yn rhagorol”.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau sydd gan Gymru Fyd-eang i'w cynnig yma.