Mae’r gronfa bartneriaethau hon gan Gymru Fyd-eang yn rhoi cyfle i sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru gymryd y camau cyntaf i ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy, hirdymor gyda phartneriaid rhyngwladol trwy gydweithio’n gyntaf ar brosiectau tymor byr, sy’n cael eu hysgogi gan ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i’r naill ochr a’r llall.

Gyda chymorth cyllid o hyd at £4,000 ar gyfer pob prosiect, bydd colegau a phrifysgolion Cymru’n gweithio gyda'u partneriaid rhyngwladol ar brosiectau sy'n cefnogi nifer o weithgareddau, gan gynnwys meithrin capasiti a hyfforddiant; cynllunio addysgu/cyflwyno ar y cyd; neu gyflwyno gweithdai, symposia neu ddigwyddiadau.

Mae'r 22 prosiect llwyddiannus yn mynd i'r afael â themâu o ddiddordeb byd-eang gan gynnwys trawsnewid digidol; sero net, ynni gwyrdd a datgarboneiddio; diwydiannau creadigol a'r cyfryngau; iechyd y boblogaeth a biotechnoleg a deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion). Mae natur amrywiol y prosiectau hyn yn dangos dyfnder ac ehangder y gweithgareddau ymchwil a gyflawnir gan sefydliadau Cymreig.

Mae cyfanswm o dros £75,000 wedi'i ddyfarnu, i'w rannu rhwng naw prifysgol a choleg â’r nod o gefnogi prosiectau gyda phartneriaid yn UDA, Canada, India a Fietnam.

 

Meddai Tom Woodward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru, am y dyraniadau cyllid:

“Mae’n amlwg o nifer y ceisiadau a gafodd Cymru Fyd-eang yn y rownd hon, bod ein colegau a’n prifysgolion yn gosod gwerth aruthrol ar gydweithio rhyngwladol a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar addysgu, dysgu, datblygiad proffesiynol ac allbwn ymchwil.

“Mae natur y cyllid a gynigiwn yn caniatáu i brosiectau gael eu llywio gan anghenion a bod yn hyblyg, sy’n golygu y gall y prosiectau gefnogi pa bynnag nod sy’n gweddu orau i uchelgeisiau rhyngwladol y sefydliadau – boed hynny’n ddatblygiad rhaglenni ar y cyd, partneriaethau TNE, cyfleoedd symudedd, ymchwil ac arloesiadau neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y buddion, y canlyniadau a’r effaith a fydd yn cael eu gwireddu trwy’r prosiectau hyn a’r perthnasoedd a’r gweithgarwch tymor hwy y byddant yn eu meithrin.”