Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i gytuno i gefnogi addysg bellach yng Nghymru a Chanada
Roedd saith o Benaethiaid ac Is-Benaethiaid o golegau Addysg Bellach (AB) Cymru yn rhan o ddirprwyaeth a fynychodd gynhadledd flynyddol Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd/Colegau ac Athrofeydd Canada ym Montreal rhwng 23ain a 25ain Ebrill 2023. Daeth y gynhadledd ag arweinwyr ôl-uwchradd o bob rhan o'r byd ynghyd yn y digwyddiad mwyaf o'i fath.
27 April 2023
Roedd y gynhadledd hefyd yn cyd-daro ag arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng ColegauCymru, Prifysgolion Cymru, a Cholegau ac Athrofeydd Canada, a hwyluswyd gan Gymru Fyd-eang. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad ar y cyd i ddatblygu cysylltiadau a rhannu deialog ar gydweithrediad mewn addysg bellach ac uwch rhwng Cymru a Chanada.
O dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, bydd Prifysgolion Cymru a CholegauCymru yn ceisio hwyluso’r canlynol ar ran y prifysgolion a’r colegau hynny yng Nghymru sy'n aelodau, y bydd Colegau ac Athrofeydd Canada, yn eu tro, yn ceisio eu hwyluso ar ran y sefydliadau sy’n aelodau yng Nghanada:
- Symudedd byr-dymor myfyrwyr a chyfadrannau
- Ymchwil Cymhwysol a datblygu'r Cwricwlwm yn ymwneud â chaffael sgiliau a chyflogadwyedd
- Partneriaethau sefydliadol a chytundebau trosglwyddo,
- Teithiau ymgyfarwyddo a/neu weithgareddau cysylltiedig
Mae datblygu partneriaeth yn flaenoriaeth i Gymru Fyd-eang, a gall cydweithredu rhwng sefydliadau gynyddu recriwtio myfyrwyr, gwella symudedd, a hybu enw da addysg yng Nghymru yn rhyngwladol.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys gweithdai, cyflwyniadau, a chyfleoedd i rwydweithio, gan ei gwneud yn haws i gynrychiolwyr o Gymru fynd ati i ddatblygu partneriaethau a rhannu gwybodaeth ac arferion gorau gyda rhanddeiliaid rhyngwladol. Daeth dros 1500 o gynrychiolwyr rhyngwladol i’r gynhadledd, ac roedd hwn yn gyfle gwych i Benaethiaid Cymru ddatblygu partneriaethau newydd, a rhannu arferion gorau.
Cynhaliwyd derbyniad min-nos Cymru Fyd-eang ar 24ain Ebrill, ac roedd yn gyfle i ddathlu partneriaeth a chydweithio rhwng colegau AB yng Nghymru a Chanada. Roedd y derbyniad hefyd yn gyfle i'r cynrychiolwyr o Gymru gysylltu â'u cymheiriaid yng Nghanada, gan ganiatáu rhwydweithio a datblygu partneriaethau gwerthfawr. Cefnogwyd y digwyddiad a chyfranogiad yn y gynhadledd drwy Gymru Fyd-eang a Taith, rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Colegau ac Athrofeydd Canada yw llais cenedlaethol a rhyngwladol rhwydwaith addysg ôl-uwchradd mwyaf Canada, sy'n darparu ystod o gymorth i’r colegau, athrofeydd a sefydliadau polytechnig yng Nghanada a ariennir yn gyhoeddus.
Mae Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd yn rhwydwaith rhyngwladol o golegau sy’n cynrychioli 62 o wledydd, gan gynnwys India, UDA, a Chanada, sydd oll yn farchnadoedd blaenoriaeth ar gyfer Cymru Fyd-eang. Mae'n gweithio i rannu arfer gorau a chynorthwyo â datblygu partneriaethau. Mae'r sefydliad yn cynnal saith grŵp cydnawsedd, sy'n rhoi fforwm i aelodau rwydweithio â'u cymheiriaid rhyngwladol, rhannu arferion gorau, a mabwysiadu dulliau i gynyddu cyflogadwyedd graddedigion sydd wedi derbyn addysg a hyfforddiant mewn meysydd proffesiynol a thechnegol.
Hoffai Cymru Fyd-eang ychwanegu ein diolch i gydweithwyr yng NgholegauCymru a Cholegau ac Athrofeydd Canada am eu cydweithrediad yn y cyfnod cyn y ddirprwyaeth ac arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.