Croeso i Gymru: Digwyddiad croeso ysgolheigion Cymru
Roedd Cymru Fyd-eang yn falch o gydweithio â Study UK a’r Cyngor Prydeinig wrth gynnal digwyddiad i groesawu ysgolheigion i Gymru.
26 October 2023
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gyfle i’r ysgolheigion gwrdd â chymheiriaid, rhwydweithio â’i gilydd a phartneriaid o bob rhan o’r sector addysg uwch yng Nghymru, a chlywed rhywfaint o gerddoriaeth fyw yn Gymraeg.
Yn ystod y digwyddiad, clywodd ysgolheigion a gwesteion negeseuon o groeso gan Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru a Chadeirydd Cymru Fyd-eang a Ruth Cocks, Cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yng Nghymru. Roeddem hefyd yn falch o groesawu’n ôl Amy Nguyen, cyn ysgolhaig ôl-raddedig Cymru Fyd-eang, a fu’n sôn am ei hamser yng Nghymru ac yn rhannu rhai o’i hatgofion hapus o astudio yma.
Yn ei neges groeso, cyfeiriodd Dr Calvert at gyfraniad myfyrwyr rhyngwladol i gampysau ledled Cymru trwy wneud ein cymunedau’n fwy amrywiol a bod yn hael wrth rannu eu diwylliannau â ni. Tynnodd sylw at y ffaith eu bod nhw, fel ysgolheigion, yn cynrychioli arweinwyr y dyfodol yn eu meysydd, ac felly'n mynd â'r wybodaeth a'r sgiliau y maent yn eu datblygu yng Nghymru yn ôl adref er budd eu gwledydd a'u cymunedau.
Hoffem ddiolch yn arbennig i gydweithwyr o Study UK a’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl, ac i westeion a fynychodd i ddangos i’n hysgolheigion faint o groeso sydd i fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru. Diolch yn fawr.