Dirprwyon Cymru yn ymweld â Texas, Alabama a Georgia
Yn ddiweddar, teithiodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC, i Texas, Alabama, a Georgia yn Nhaleithiau Deheuol UDA. Yn y blog hwn, mae Dr. Maggie Parke, Rheolwr Datblygu’r Farchnad ym Mhrifysgolion Cymru, yn rhannu ei phrofiadau ar y daith wrth iddynt ymweld â phartneriaid presennol Cymru, darpar bartneriaid prifysgol, a dathlu’r cysylltiadau rhwng pobl Cymru a thaleithiau’r De.
11 October 2019
Uchafbwynt y daith oedd ymweliad ag Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street South yn Birmingham, Alabama sy’n gartref i ffenestr wydr lliw, a elwir yn ffenestr Cymru – rhodd i’r eglwys ym 1965. Roedd yn anrheg gan bobl Cymru a’r arlunydd Cymreig, John Petts, ar ôl i’r eglwys, gael ei dinistrio gan ffrwydrad a ysgogwyd gan hiliaeth, lle bu pedwar o’i haelodau ifanc farw, yn ystod yr ymgyrch Hawliau Sifil yn America.
Gosododd y Gweinidog a Siân Lewis o’r Urdd dorch goffa ar y safle, a chyflwynwyd rhodd o Feibl Cymraeg a phlât gwydr wedi’i wneud â llaw i’r Parchedig Arthur Price Jr. Fe ddysgon ni am bwysigrwydd y safle, ei statws cynyddol fel cofeb hanesyddol genedlaethol ac ymgeisydd am statws lleoliad treftadaeth y byd; hefyd yr effaith a gafodd yr anrheg o Gymru ar y gymuned ar ffurf y ffenestr drawiadol hon, a ariannwyd gan y cyhoedd.
Gydag ymweliadau â Phrifysgol Houston, Coleg Meddygaeth Baylor, Prifysgol Alabama, Georgia Tech, a Phrifysgol Emory, bu sawl achlysur i ddathlu llwyddiannau prifysgolion Cymru.
Llofnodwyd Datganiad o Fwriad rhwng Prifysgol Emory (yn ymgorffori Rhwydwaith Astudiaethau Atlanta) a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydweithredu parhaus mewn gweithgareddau addysgol ac ymchwil i gryfhau cydweithredu prifysgol a dinesig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector prifysgolion, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a CCAUC i ddatblygu ymhellach y bartneriaeth ddinesig ryngwladol bwysig hon.
Cawsom wahoddiad i ginio yng nghartref Prif Gonswl Prydain yn Atlanta gyda phartneriaid Prifysgol Aberystwyth o’r Citadel, Prifysgol Gogledd Georgia, Prifysgol Alabama, Prifysgol Carson-Newman, a Phrifysgol Tennessee.
Siaradodd y Gweinidog ym mrecwast Cyngor Materion y Byd, a drefnwyd gan Mark Becker, Llywydd Prifysgol Talaith Georgia ar arloesi ym maes addysg yng Nghymru, gan dynnu sylw at ragoriaeth ein prifysgolion. Cyfeiriodd hefyd at hygyrchedd a fforddiadwyedd i fyfyrwyr o America, o flaen cynulleidfa o fwy na 100 o addysgwyr ac arweinwyr busnes lleol.
Cafodd Cymru hefyd groeso cynnes ym Mhrifysgol Alabama yn Birmingham, lle gwelwyd brwdfrydedd dros berthnasoedd newydd â Phrifysgolion yng Nghymru, a chefnogaeth eiddgar i’n partneriaethau â rhaglenni Ysgoloriaeth Fulbright a Gilman. Cafwyd 25 o ymgeiswyr ar gyfer y Fulbright y llynedd, ac maen nhw’n gobeithio dyblu eu hymgeiswyr am Gilman. Roeddent wrth eu bodd gweld bod Cymru wedi sefydlu perthynas mor gryf â’r cyrff ysgoloriaeth uchel eu proffil hyn, a bod Cymru’n cynnig opsiynau cystadleuol, fforddiadwy i fyfyrwyr sy’n aflwyddiannus yn eu cais am yr ysgoloriaeth lawn.
Roedd y croeso cynnes, y cyfleoedd gwych i’n myfyrwyr a’r brwdfrydedd i’w myfyrwyr ddod i ymweld â Chymru yn fendigedig! Dangosodd Cymru ei bod yn agored i’r byd ac yn barod i groesawu’r perthnasoedd lefel uchel hyn, ac mae’r rhagolygon yn gyffrous.