Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Mercher, 26ain Chwefror 2025.

Mae’r gronfa’n rhoi cyfle i sefydliadau yng Nghymru ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy, hirdymor gyda phartneriaid rhyngwladol trwy gydweithio’n gyntaf ar brosiect tymor byr, sy’n cael ei yrru gan ganlyniadau, o fudd/blaenoriaeth i’r naill ochr a’r llall.  Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £4,000 ar gyfer pob prosiect.

Dylai fod gan brosiectau amcanion, gweithgareddau a deilliannau disgwyliedig wedi'u diffinio'n glir (y tu hwnt i sefydlu perthnasoedd ac archwilio meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol). Er enghraifft, gallai prosiectau wneud y canlynol:

  • cefnogi’r cynnydd mewn capasiti a/neu hyfforddiant,
  • canolbwyntio ar addysgu/cyflwyno ar y cyd,
  • cyflwyno gweithdai, symposia neu ddigwyddiadau.

Bydd gweithgareddau priodol eraill yn cael eu hystyried ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â'r amodau ar gyfer cyllido a amlinellir yn y Cylch Gorchwyl.

Y rhanbarthau a flaenoriaethwyd gan Gymru Fyd-eang yw:

  • UDA
  • Canada
  • Fietnam
  • Karnataka, India
  • Telangana, India

(Gall cyllido hefyd gynorthwyo partneriaethau yn yr Almaen, fodd bynnag, nid yw hyn ond ar gael i sefydliadau/unigolion a gymerodd ran yn ymweliad y ddirprwyaeth â’r Almaen ym mis Hydref 2024, a gydlynwyd gan DAAD a Chymru Fyd-eang.)

Mae adborth gan randdeiliaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol wedi amlygu’r meysydd blaenoriaeth canlynol ar gyfer datblygiad:

  • Trawsnewid digidol
  • Sero net, ynni gwyrdd a datgarboneiddio
  • Technoleg amaeth a’r economi wledig
  • Diwydiannau creadigol a’r cyfryngau
  • Iechyd y boblogaeth a biodechnoleg
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion)

Bydd prosiectau sy'n canolbwyntio ar y meysydd hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllido, ond ni fydd ceisiadau sy'n canolbwyntio ar feysydd eraill yn cael eu hystyried yn anghymwys.

Manylion cyllido

Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £4,000 ar gyfer pob prosiect i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd. Bydd ymgeiswyr yn dewis maes ffocws (yn seiliedig ar y themâu a amlinellwyd uchod) ac yn cydweithio i gyflwyno prosiect tymor byr yn y maes hwnnw. Disgwylir i’r gweithgaredd ddigwydd rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2025. Yna rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 27ain Mehefin 2025.

I gydnabod yr amserlen gymharol fyr ar gyfer cyflawni prosiectau, bydd Cymru Fyd-eang yn cefnogi’r modelau partneriaeth hynny sydd fwyaf tebygol o gael effaith. Bydd ymgeiswyr felly’n gallu gwneud cais am un o'r grantiau canlynol:

Cyllido Partneriaeth Cymru Fyd-eang – Prosiectau Newydd

Fel mewn rowndiau blaenorol, dyfernir cyllid ar gyfer cyflwyno prosiect partneriaeth newydd a gweithgareddau cysylltiedig sy'n ymwneud â'r meysydd blaenoriaeth uchod.

Cyllido: Hyd at £4,000 y prosiect

Cyllido Partneriaeth Cymru Fyd-eang – Ymestyn Prosiectau

Mae'r arian yma ar gael i gynorthwyo ag ehangu prosiectau Cymru Fyd-eang sefydledig a ariannwyd mewn rownd flaenorol. Gall ymgeiswyr ddefnyddio'r grant hwn i ddatblygu eu prosiectau ymhellach â'r nod o ehangu effaith a chryfhau'r berthynas â'u sefydliad partner er mwyn sicrhau cydweithrediad mwy hirdymor, ac ar raddfa fwy.

Cyllido: Hyd at £3,000 y prosiect

Partneriaeth DAAD/Cymru Fyd-eang

Dim ond ar gael i sefydliadau/unigolion a gymerodd ran yn ymweliad y ddirprwyaeth â’r Almaen ym mis Hydref 2024, a gydlynwyd gan DAAD a Chymru Fyd-eang, mae’r cyllid hwn ar gael i gefnogi datblygiad y cysylltiadau a sefydlwyd yn ystod yr ymweliad. Gall ymgeiswyr ddefnyddio'r cyllid i ddatblygu prosiect gydag un o'r sefydliadau partner yn yr Almaen a gymerodd ran yn y rhaglen, gan ganolbwyntio'n ddelfrydol ar un o'r meysydd blaenoriaeth a amlinellir uchod. Dylid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio'r papurau cais ar gyfer “prosiectau newydd”.

Cyllido: Hyd at £4,000 y prosiect

Ceir manylion llawn yr alwad yn y Cylch Gorchwyl.

Gofynnir i chi ddychwelyd ffurflenni cais a thempledi ar gyfer cyllideb ac amserlen wedi’u cwblhau i bill.burson@uniswales.ac.uk erbyn 26ain Chwefror 2025.

Am ragor o wybodaeth neu i drafod yr alwad hon, cysylltwch â:

Bill Burson 
Pennaeth Partneriaethau, Cymru Fyd-eang 
E-bost: bill.burson@uniswales.ac.uk