Beth sy'n gwneud addysg ryngwladol yng Nghymru’n ddiamheuol Gymreig?
Dyma Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru, yn edrych ar rôl ryngwladol sefydliadau Cymru cyn sesiwn IHEF 2024 ar ddulliau rhanbarthol o ymdrin â strategaethau rhyngwladol.
26 April 2024
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan UUKi.
Y mis nesaf, bydd y gymuned addysg ryngwladol yn ymgynnull unwaith eto yn Llundain ar gyfer Fforwm Addysg Uwch Rhyngwladol (IHEF) Cymdeithas Prifysgolion y DU (UUKi).
Wrth baratoi ar gyfer fy sesiwn IHEF, gofynnwyd i mi ystyried beth sy'n gwneud addysg ryngwladol yng Nghymru’n ddiamheuol Gymreig. Mae'n bwnc sydd â’r potensial i fod yn eang a diddorol. A yw’r polisïau a’r rhaglenni rydym wedi’u datblygu yng Nghymru wedi’u llunio gan ein maint? Ydy'r ateb yn perthyn i gyd-destun hanesyddol? Ac, yn hollbwysig, beth mae hyn yn ei olygu o ran sut mae addysg ryngwladol yng Nghymru’n esblygu i’r dyfodol?
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gyda'r cwestiynau hyn mewn golwg, rwyf wedi cael fy hun yn meddwl yn ddwys am yr atebion.
Yn gyntaf, maint. Byddwn yn dadlau bod gan Gymru fantais amlwg o fod â sector sy’n ddigon mawr ac amrywiol i gynrychioli ehangder yr hyn a gynigir gan y DU, ac eto’n ddigon bach i feithrin cydweithio rhyng-sefydliadol gwirioneddol. Mae Pwyllgor Prifysgolion Cymru, gyda'i wyth Is-Ganghellor a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, yn mynd i'r afael â materion y dydd ac yn archwilio datrysiadau ar eu cyfer - i gyd o amgylch un bwrdd. Ar ben hynny, mewn sector bach, mae llai o gystadleuaeth am fynediad i lywodraeth, rheoleiddwyr a sefydliadau perthnasol eraill, sy'n arwain at gyfleoedd cydweithredol ehangach ledled Cymru. Mae partneriaeth Cymru Fyd-eang ac yn fwy diweddar Rhwydwaith Arloesedd Cymru, ill dau yn gynnyrch y model hwn o gydweithio.
Ond beth am hanes ein sefydliadau? O brifysgolion a sefydlwyd i hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth, i'r rhai a sefydlwyd trwy gyfraniadau gwirfoddol pobl leol, a cholegau arbenigol a sefydlwyd gan arweinwyr diwydiannau mawr eu dydd - ffurfiwyd pob un ohonynt o'u cymunedau, y maent wedi parhau i'w gwasanaethu hyd heddiw trwy'r hyn a alwn y dyddiau hyn yn genhadaeth ddinesig. A oes unrhyw syndod, felly, pan lansiwyd Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig ar y cyd gan brifysgolion yng Nghymru ym mis Ionawr 2021, mai dyma'r cyntaf o'i fath yn y DU, a'r cyntaf yn y byd i gael pob prifysgol mewn gwlad i fod yn rhan ohono?
Yn fwy cyffredinol, efallai y bydd darllenwyr yn ymwybodol bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yng Nghymru’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau fel ‘gwlad sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’.
Un o’r cyrff cyhoeddus hyn fydd Comisiwn newydd Cymru ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY), a fydd yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwyliaeth dros addysg ôl-16. Bydd gan CADY 12 o ddyletswyddau strategol, gan gynnwys, yn benodol, hyrwyddo meddylfryd byd-eang.
Sut mae cynnal sector amrywiol a chystadleuol yn fyd-eang ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? Sut mae addysg ryngwladol yn addasu i fodloni ein cyfrifoldebau hinsawdd cynyddol? Bydd y cwestiynau hyn, sy’n berthnasol yn fyd-eang ond sydd wedi’u hymgorffori yn neddfwriaeth Cymru, yn rhai i CADY fynd i’r afael â nhw pan ddaw i fodolaeth yn ffurfiol fis Awst eleni.
Wrth gwrs, ni fu erioed yn bwysicach hyrwyddo meddylfryd byd-eang. Gyda recriwtio myfyrwyr rhyngwladol wedi’i osod mewn cyd-destun allanol hynod heriol a chystadleuol, mae angen i Gymru a’i sefydliadau arloesi a dod yn fwy cymwys i gystadlu’n fyd-eang. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny’n aruthrol - gan effeithio'n uniongyrchol ar gynaladwyedd sefydliadol.
Ond fel y gwyddom, byddai'n gamarweiniol meddwl am addysg ryngwladol dim ond yn y termau cul hyn. Fel eu cymheiriaid yn y DU, mae gan sefydliadau Cymru rwydweithiau rhyngwladol sylweddol mewn ymchwil ac arloesedd, dysgu ac addysgu a symudedd, ac maent yn elwa'n fawr o ddysgu trawsffiniol a chyfnewid myfyrwyr a staff. Ac er ei bod yn wir fod myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd yn hollbwysig i gynaladwyedd y sector, maent hefyd yn cynnig amrywioldeb o ran cymuned a meddylfryd deallusol sydd o fudd sylweddol i'n myfyrwyr, staff a’n cymunedau’n ehangach.
Un o’r bobl a welodd hyn ac a dreuliodd lawer o'i bywyd yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol oedd diweddar nain fy ngŵr.
Ganwyd Mamgu yn 1921, yn gynnyrch traddodiad crefyddol anghydffurfiol Cymraeg ei iaith, ac roedd ganddi gydwybod cymdeithasol pwerus, delfrydau cymunedol cryf a hunaniaeth Gymreig wedi'i seilio'n gadarn ar ryngwladoldeb. Rhannodd yr egwyddorion hyn â’i gŵr, athro astudiaethau crefyddol, a theithiodd y ddau yn helaeth cyn ymsefydlu ar gyrion Llambed, lle bu eu tŷ am ddegawdau yn gartref-oddi-cartref i genedlaethau o fyfyrwyr rhyngwladol.
Oedd, roedd Mamgu yn eiriolwr dros addysg ryngwladol ymhell cyn i'r rhan fwyaf ohonom sy’n ymgasglu yn IHEF hyd yn oed gael ein geni. Ac eto, fel llawer o fenywod ifanc ei chenhedlaeth, ni chafodd y cyfle i elwa ar addysg uwch ei hun. Nid oedd ei theulu yn gefnog nac wedi teithio rhyw lawer. Magwraeth Gymreig o'r llyfrau hanes oedd yr un a gafodd hi.
Felly, i gloi, efallai bod rhywbeth arbennig o Gymreig yn digwydd wedi’r cyfan? A allai fod rhywbeth am fod yn wlad fach, gydweithredol, gymunedol, ddwyieithog sy’n hyrwyddo’r awydd i ddysgu gan eraill a chynnig y gorau iddynt trwy gydweithio rhyngwladol? Rwy'n credu hynny, sydd ddim yn syndod!
Yr hyn sy'n gyffredinol yw, mewn cyfnod cythryblus, y byddai'n dda i ni gofio etifeddiaeth Mamgu - o gysylltiadau personol ar draws y byd, o ddysgu gan eraill a chynnig y gorau iddynt, ac o fod yn gyfrifol yn fyd-eang