Mae Cymru’n wlad agored a chroesawgar, sy’n barod i gynnig profiad addysgol eithriadol i fyfyrwyr o bedwar ban byd. Dyna’r neges ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £500,000 ychwanegol i gefnogi rhaglen Cymru Fyd-eang yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd y cyllid newydd yn helpu i sicrhau bod brand Astudio yng Nghymru yn parhau i hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch sefydliadau Cymreig, cynorthwyo â recriwtio myfyrwyr a hybu proffil Cymru yn rhyngwladol.

Mae sefydlu Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd Cymru, yn gyfle cyffrous i osod gweledigaeth newydd ar gyfer addysg ryngwladol i'r dyfodol. Bydd y cyllid newydd yn rhoi amser ychwanegol ar gyfer trafod a chynllunio wrth i Medr ymgymryd â’r cyfrifoldeb o hyrwyddo Ymagwedd Fyd-eang i sefydliadau.

Ym mis Mawrth, bydd Prifysgolion Cymru’n cyhoeddi adroddiad newydd yn nodi argymhellion â’r nod o symud yr agenda addysg ryngwladol yn ei blaen. Bydd yr argymhellion yn cynorthwyo Medr, Llywodraeth Cymru a’r sector ôl-16 i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn wlad agored, groesawgar a deinamig sy’n darparu profiad addysg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr rhyngwladol, nawr ac yn y dyfodol.