Cymru Fyd-eang yn dyrannu cyllid sbarduno i 22 o brosiectau partneriaeth rhyngwladol
Y mis hwn mae Cymru Fyd-eang wedi dyrannu cyllid i 22 o brosiectau partneriaeth rhyngwladol newydd, a bydd gweithgarwch yn cael ei gynnal rhwng Awst a Rhagfyr 2024.
30 August 2024
Bydd arian o’r gronfa bartneriaeth hon gan Gymru Fyd-eang yn rhoi cyfle i sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy, hirdymor gyda phartneriaid rhyngwladol trwy gydweithio’n gyntaf ar brosiectau tymor byr, sy’n cael eu hysgogi gan ddeilliannau, sydd o fudd i’r naill sefydliad a’r llall.
Gyda chymorth cyllid o hyd at £5,000 ar gyfer pob prosiect, bydd colegau a phrifysgolion Cymru’n gweithio gyda'u partneriaid rhyngwladol ar brosiectau sy'n cefnogi nifer o weithgareddau, gan gynnwys meithrin capasiti a hyfforddiant; cynllunio addysgu/cyflwyno ar y cyd; neu gyflwyno gweithdai, symposia neu ddigwyddiadau.
Bydd y 22 prosiect llwyddiannus yn mynd i'r afael â themâu o ddiddordeb byd-eang gan gynnwys trawsnewid digidol; sero net, ynni gwyrdd a datgarboneiddio; technoleg amaeth a'r economi wledig; diwydiannau creadigol a'r cyfryngau; iechyd y boblogaeth a biotechnoleg, yn ogystal â deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion).
Mae cyfanswm o dros £100,000 wedi'i ddyrannu rhwng saith prifysgol a choleg ar gyfer cefnogi prosiectau gyda phartneriaid yn UDA, Canada, India a Fietnam.
Meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru ar y dyraniadau cyllid:
“Mae’r ffaith bod Cymru Fyd-eang wedi derbyn nifer sylweddol uwch o geisiadau o ansawdd uchel nag yr oedd yn gallu eu hariannu yn y rownd hon yn amlygu’r pwysigrwydd y mae ein colegau a’n prifysgolion yn ei osod ar gydweithredu a chydweithio rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at weld y manteision, y canlyniadau a’r effaith a gynhyrchir trwy’r prosiectau hyn a’r perthnasoedd a’r gweithgarwch tymor hwy y byddant yn eu meithrin.
“P’un ai a oes gan bartneriaid ddiddordeb mewn sefydlu rhaglenni ar y cyd, partneriaethau addysg draws-wladol (TNE), cyfleoedd ar gyfer symudedd neu’n canolbwyntio ar ymchwil ac arloesi, mae’n amlwg o faint yr ymateb yr ydym wedi’i weld i’r alwad hon bod Cymru’n frwdfrydig ynghylch y posibilrwydd o weithio gyda phartneriaid rhyngwladol.”
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol, gydweithredol at addysg uwch ac addysg bellach ryngwladol yng Nghymru. Ariennir Cymru Fyd-eang gan Lywodraeth Cymru drwy Taith.