Cyflwyno Cymru i’r byd: Sut mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn cryfhau safle Cymru ar lwyfan y byd
Dyma Dr Ben Calvert, Cadeirydd Cymru Fyd-eang, yn esbonio sut mae addysg ryngwladol yn helpu i osod Cymru fel enghraifft ffyniannus o wlad ddeinamig â golygon byd-eang.
30 January 2024
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi profi cynnwrf byd-eang sylweddol. Gydag ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin, gwrthdaro parhaus yn y dwyrain canol, a phandemig Covid-19, rydym wedi wynebu cyfres o heriau yn wahanol i’r rhai a welwyd ers degawdau lawer.
Yn erbyn y cefndir hwn, mae cynnal ymagweddiad rhyngwladol yn bwysicach nag erioed. Mae Cymru Fyd-eang yn chwarae rhan hanfodol wrth harneisio cryfderau cyfunol ein prifysgolion a’n colegau i atgyfnerthu perthnasoedd ac enw da byd-eang Cymru.
Mae’r gwaith a wneir gan Gymru Fyd-eang yn ei hanfod yn waith hirdymor, ac mae’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd a dealltwriaeth rhyngom ni a’n partneriaid rhyngwladol. Mae’r rhaglen bellach yn ei thrydydd cam gyda phrosiect Cymru Fyd-eang III, ac rydym yn dechrau gweld y manteision a’r buddion y mae’r wyth mlynedd diwethaf o weithgarwch wedi’u cyflawni.
Ond rydym yn sylweddoli mai dim ond trwy ymgysylltu'n ofalus a pharhaus â'n ffrindiau a'n cydweithwyr yn y gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw y gellir cynnal partneriaethau fel y rhain. Ni allwn fod yn hunanfodlon.
Wrth i ni edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf a chwblhau Cymru Fyd-eang III, byddwn yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn flaenorol, gan barhau i wella ac arloesi i sicrhau deilliannau pellach i Gymru.
Bod o fudd i'n cymunedau
Dyna, wrth gwrs, y rheswm pam yr ydym yn gwneud hyn. Mae gwaith prifysgolion a cholegau’n rhyngwladol yn y pen draw’n ymwneud â’r buddion a gynigiwn i’n cymunedau ac i Gymru gyfan.
Gwyddom fod gweithgareddau rhyngwladol ein sefydliadau yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Mae partneriaethau rhyngwladol a myfyrwyr o dramor yn cynhyrchu £1.43 biliwn ychwanegol i economi Cymru, gydag un swydd yn cael ei chreu am bob dau fyfyriwr rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru. Ac mae’r manteision hyn i’w gweld ar draws Cymru gyfan, gan ddangos rôl prifysgolion fel angorau economaidd yn eu cymunedau lleol.
Fodd bynnag, mae mwy i hyn na dim ond y manteision economaidd; mae hefyd yn ymwneud â buddion cymdeithasol a diwylliannol.
Efallai nad oes enghraifft well o hyn na’r cyllid a ddarparwyd gan Gymru Fyd-eang, gyda chefnogaeth CCAUC, i brifysgolion Cymru ffurfio a chynnal partneriaethau gyda sefydliadau yn yr Wcráin. Mae'r gwaith hwn wedi golygu bod staff a myfyrwyr o'r Wcráin wedi gallu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys ysgolion haf, darparu adnoddau gan gynnwys gliniaduron, cyflwyno cyrsiau ar-lein, a rhaglenni ar gyfer academyddion gwadd o'r Wcráin.
Rhaid i ni hefyd gydnabod y rôl bwysig y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei chwarae wrth hybu amrywioldeb a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i gymdeithas Cymru ac yn parhau i roi croeso cynnes a chynhwysol i bawb sy’n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru.
Agor cyfleoedd newydd
Newid pwysig i Gymru Fyd-eang ym mhrosiect Cymru Fyd-eang III yw cynnwys addysg bellach. Gyda disgwyl i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd gael ei lansio yng Nghymru’n ddiweddarach eleni, bydd ymagwedd gydgysylltiedig at addysg drydyddol yn dod yn bwysicach fyth.
Trwy gyflwyno addysg ôl-16 yng Nghymru fel cyfanwaith cydlynol yn rhyngwladol, gallwn agor cyfleoedd newydd, sicrhau ystod ehangach o fanteision a chryfhau perthnasoedd rhwng sectorau yng Nghymru.
Yn achos colegau addysg bellach, rydym eisoes wedi hwyluso cyfleoedd i hyrwyddo Cymru mewn digwyddiadau rhyngwladol, cefnogi gwaith i addysgu a grymuso entrepreneuriaid benywaidd yn India, a chynorthwyo dysgwyr yng Nghymru ac India i ddatblygu sgiliau mewn technoleg werdd.
Yn y cyfamser, mae dysgwyr yng Nghymru wedi gallu ehangu eu profiad dysgu, gyda chyfleoedd i deithio dramor ac ymweliadau gan fyfyrwyr ac addysgwyr rhyngwladol. Galluogodd cyswllt rhwng Coleg Caerdydd a’r Fro a Pholytechnig Saskatchewan i grŵp o fyfyrwyr Saskatchewan o dras frodorol yn bennaf ymweld â Chymru a threulio amser gyda’u cymheiriaid yn y Coleg a dysgu ganddynt.
Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n cydweithwyr mewn addysg bellach i ddatblygu cyfleoedd newydd ac adeiladu ar lwyddiant y bartneriaeth newydd hon.
Cryfhau lle Cymru ar lwyfan y byd
Wrth galon Cymru Fyd-eang mae ein huchelgais i gryfhau lle Cymru ar lwyfan y byd a sicrhau bod y byd yn gwybod popeth sydd gan ein pobl, ein lleoliadau a’n sefydliadau i’w gynnig.
Dangoswyd hyn trwy'r gwaith a gyflawnwyd gennym mewn partneriaeth â Hoci Cymru pan lwyddodd tîm hoci dynion Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIH am y tro cyntaf, a gynhaliwyd yn Bhubaneswar a Rourkela, India. Golygodd y bartneriaeth fod logo Astudio yng Nghymru’n ymddangos ar flaen crysau’r chwaraewyr yn ystod y twrnamaint, gan hyrwyddo Cymru i genhedlaeth newydd o ddarpar fyfyrwyr, tra’n cefnogi tîm dynion Cymru wrth iddynt gystadlu yng Nghwpan y Byd.
Tra yn Bhubaneshwar, trefnodd Cymru Fyd-eang ddigwyddiad mewn ysgol gyda Hoci Cymru, Llywodraeth Cymru, a Dirprwy Uchel Gomisiwn Prydain yn Kolkata, lle clywodd dros 7,000 o fyfyrwyr am fanteision astudio yng Nghymru.
Mae’n iawn dathlu’r hyn rydym wedi’i gyflawni, ond rydym hefyd yn edrych ymlaen gydag awydd diwyro at barhau â’r gwaith hwn. Trwy’r cyfnod hwn o ansefydlogrwydd byd-eang, bydd ein gallu i ffurfio partneriaethau newydd a pharhaol yn dod yn bwysicach fyth, nid yn unig i’n sefydliadau ond hefyd i’r rôl y maent yn ei chwarae yn economaidd ac yn gymdeithasol ar draws ein gwlad.