Cymru a'r Almaen yn uno i archwilio trefniadau ymchwil cydweithredol
Mewn cam arwyddocaol tuag at gryfhau cysylltiadau academaidd rhyngwladol, cymerodd uwch gynrychiolwyr o sefydliadau addysg uwch Cymru ran mewn ymweliad wythnos o hyd â’r Almaen, gan feithrin partneriaethau ac archwilio cyfleoedd ar gyfer ymchwil cydweithredol.
21 November 2024
Daeth yr ymweliad, a drefnwyd gan Gymru Fyd-eang mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen (DAAD), â chynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ynghyd â phrifysgolion o Bonn a Baden-Wűrttemberg.
Dechreuodd y prifysgolion o Gymru eu hymweliad yn Bonn, lle cawsant eu cyflwyno i dirwedd ymchwil yr Almaen trwy drafodaethau craff â DAAD a Sefydliad Ymchwil yr Almaen (DFG) ynghylch cyfleoedd am gyllido rhyngwladol ar gyfer prosiectau cydweithredol. Roedd sesiwn gyda KiWi (Rhwydwaith Cymhwysedd ar gyfer Gwyddoniaeth Agored) yn gyfle i archwilio arferion gwyddoniaeth agored a diogelwch ymchwil, gyda chyfarfodydd â Phrifysgol Bonn yn dilyn hynny.
Ymwelodd y cynrychiolwyr â Phrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Bonn-Rhein-Sieg, gan deithio wedyn i Athrofa Dechnoleg Karlsruhe yn Baden-Wűrttemberg, lle buont yn archwilio dulliau arloesol o ymchwilio ac addysgu.
Fel partner strategol i Lywodraeth Cymru, mae cryfhau ac ehangu themâu allweddol ar gyfer cydweithio mewn addysg uwch ac addysg bellach gyda Baden-Wűrttemberg yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Hwylusodd diwrnod rhwydweithio yn Stuttgart gysylltiadau rhwng sefydliadau AU Cymru a phrifysgolion o Baden-Württemberg, rhanbarth blaenllaw ym maes ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Prifysgol y Cyfryngau Stuttgart, Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Esslingen, Prifysgol Hohenheim, Prifysgol Tübingen, Prifysgol Dechnegol Ulm, Prifysgol Reutlingen, Prifysgol Offenburg, Prifysgol Addysg Ludwigsburg, a Phrifysgol Dechnegol y Gwyddorau Cymhwysol Stuttgart.
Gyda chefnogaeth Addysg Uwch Cymru Brwsel a Baden-Württemberg International, bu’r digwyddiad hwn yn fodd i gynnal trafodaethau a oedd yn ymdrin â phynciau allweddol fel rhaglen Horizon Europe a materion ehangach mewn ymchwil ac arloesedd, yn ogystal â symudedd staff a myfyrwyr, gan amlygu buddiannau’r naill ochr a’r llall mewn cydweithredu academaidd cynaliadwy.
Ysbrydolodd yr ymweliad nifer o fentrau posibl, ac mae’r sefydliadau Cymreig yn obeithiol am gydweithio yn y dyfodol. Mae'r partneriaethau hyn yn cyd-fynd â nodau rhaglen Cymru Fyd-eang, sy'n hyrwyddo presenoldeb academaidd ac ymchwil byd-eang Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Taith.