Dyma’r neges o adroddiad newydd gan Brifysgolion Cymru, sy’n nodi cyfres o argymhellion i ddatgloi potensial llawn Cymru yn y dirwedd academaidd ac arloesedd fyd-eang. 

  • Mae Cymru Ar Draws Ffiniau: Ymagwedd at addysg drydyddol ac ymchwil ryngwladol yn y dyfodol', yn nodi argymhellion allweddol ar gyfer Medr, Llywodraeth Cymru a sefydliadau ôl-16.
  • Mae’r argymhellion yn cynnwys datblygu Strategaeth Addysg Drydyddol ac Ymchwil Ryngwladol i Gymru, penodi Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol, ac ymgysylltu agosach â Llywodraeth y DU i gyflwyno polisi mewnfudo sy’n cyd-fynd aganghenion Cymru.
  • Mae’r adroddiad wedi’i lywio gan Banel Arbenigol, sy’n cynnwys arbenigwyr ar addysg ryngwladol o bob rhan o’r DU a thu hwnt.
  • Mae addysg ac ymchwil ryngwladol yn cefnogi buddiannau cenedlaethol Cymru trwy wella enw da’r wlad yn fyd-eang, ysgogi twf economaidd, a mynd i'r afael â heriau cymdeithasol allweddol. Mae gweithgarwch rhyngwladol sefydliadau Cymru yn cynhyrchu dros £1.26bn i'r economi.
  • Mae Prifysgolion Cymru a CholegauCymru yn galw ar lunwyr polisi, addysgwyr, ac arweinwyr diwydiant i gefnogi’r ymagwedd uchelgeisiol hon a chydweithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru. 

Mae addysg ac ymchwil ryngwladol yn chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi buddiannau cenedlaethol Cymru trwy wella enw da byd-eang y wlad, ysgogi twf economaidd, a mynd i'r afael â heriau cymdeithasol allweddol.  

Wedi’i ddatblygu ar y cyd â phanel o arbenigwyr mewn addysg ryngwladol, mae’r adroddiad newydd hwn yn amlygu pwysigrwydd allweddol gweithgarwch rhyngwladol Cymru, ac yn diffinio llwybr clir i gryfhau enw da a chystadleurwydd ei sefydliadau trydyddol, ynghyd â datblygu ymagwedd fwy cynaliadwy at addysg ac ymchwil ryngwladol.  

Argymhellion 

Mae datblygu fframwaith cydlynol wrth wraidd yr argymhellion, gyda galwad ar Medr i ddatblygu Strategaeth Addysg Drydyddol ac Ymchwil Ryngwladol ar gyfer Cymru, ynghyd â galwad am Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol i Gymru, ac aelod dynodedig o Fwrdd Medr i arwain ar hyrwyddo Ymagwedd Fyd-eang. 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach rhwng llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig ar faterion fel Erasmus+, y berthynas â Horizon a pholisi mewnfudo, er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. 

Mae argymhellion eraill yn cynnwys cymorth ar gyfer marchnata cyrchfannau a phartneriaethau rhyngwladol i ddatblygu ymwybyddiaeth ehangach o sefydliadau Cymru, yn ogystal â chyllid symudedd parhaus hyd at 2028 trwy raglen Taith. Mae yna alwadau penodol hefyd ynghylch ymchwil, gan gynnwys y potensial i adfywio rhaglen Sêr Cymru a sicrhau aliniad â dyletswydd strategol Medr i hyrwyddo ymchwil ac arloesedd. 

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Cadeirydd y Panel Arbenigwyr, a Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: 

“Mae addysg ac ymchwil ryngwladol yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi buddiannau cenedlaethol Cymru.  

“Mae sefydlu Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd Cymru, yn gyfle cyffrous i osod gweledigaeth ar gyfer addysg ryngwladol ôl-16 Cymru i’r dyfodol. Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn helpu Medr i gyflawni'r weledigaeth hon, tra'n cefnogi nod Llywodraeth Cymru o godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac i dyfu economi Cymru. 

“Trwy ddatblygu fframwaith cydlynol, a manteisio ar raglenni Cymru, y DU a’r UE, gall Cymru atgyfnerthu ei rôl fel arweinydd wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang. 

Meddai Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr: 

“Rydym yn croesawu cyhoeddi Cymru Ar Draws Ffiniau, a hoffwn ddiolch i Brifysgolion Cymru a phawb a gyfrannodd o'u hamser a'u harbenigedd i'r gwaith hwn. Byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad yn ofalus.

“Yr wythnos hon byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Strategol ein hunain, lle byddwn yn amlinellu sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’n dyletswydd strategol i hyrwyddo ymagwedd fyd-eang. Mae addysg drydyddol, ymchwil ac arloesedd yn creu effaith fyd-eang, yn cryfhau enw da rhyngwladol Cymru ac yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’n cymdeithas a’n heconomi. Rydym am hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol a sicrhau bod dysgwyr a staff yn ymwybodol o’r cyfleoedd i astudio, derbyn hyfforddiant a gweithio ar draws y byd.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio â phartneriaid ar draws y sector addysg drydyddol i gyflwyno gweledigaeth o’r newydd ar gyfer uchelgeisiau Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ryngwladol.”

Meddai Andrew Cornish, Cadeirydd Grŵp Rhyngwladol Colegau Cymru, ac aelod o’r Panel Arbenigol:  

“Mae colegau addysg bellach Cymru yn cyfrannu’n sylweddol at bresenoldeb rhyngwladol y wlad, ac rydym yn croesawu’r cyfle i ddatblygu, gyda phartneriaid allweddol, fframwaith cydlynol ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol yn y dyfodol yn y sector ôl-16.

“Gyda sefydlu Medr, mae gan y sector addysg drydyddol gyfle euraidd i godi ei broffil yn rhyngwladol, gan ddod â manteision i economi Cymru. Yn ogystal, mae symudedd rhyngwladol a ariennir trwy Taith yn newid bywydau llawer o ddysgwyr, gan roi cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion, gwella eu sgiliau cyflogadwyedd a dyfnhau eu dealltwriaeth ryngddiwylliannol.  Rhaid i gyllid ar gyfer y cyfleoedd hyn barhau, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol.”

Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru: 

“Trwy hyrwyddo cydweithio a thrwy fanteisio ar gryfderau unigryw Cymru, mae’r argymhellion a gyhoeddwyd heddiw yn cynnig llwybr clir i gryfhau safle byd-eang Cymru mewn addysg ac ymchwil ryngwladol.  

“Mae blaenoriaethau penodol Cymru yn galw am strategaeth wedi’i theilwra ac ymdrech gadarn i sicrhau polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol y wlad.

“Rydym yn galw ar lunwyr polisi, addysgwyr, ac arweinwyr diwydiant i gefnogi’r ymagwedd uchelgeisiol hon a chydweithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru.