Mae'r gronfa, a gynlluniwyd i feithrin partneriaethau a chryfhau cyfleoedd ar gyfer cyllido allanol, wedi dyrannu dros £43k i naw prosiect ledled Cymru.

Mae pob un o'r prosiectau hyn yn dod ag o leiaf tair prifysgol yng Nghymru at ei gilydd, gan feithrin cydweithrediad ar draws sefydliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ceisiadau llwyddiannus yn ymwneud â sawl rhanddeiliad allanol megis y GIG, awdurdodau lleol, partneriaid diwydiant a grwpiau cymunedol, ac roedd ganddynt strategaethau datblygedig ar gyfer sicrhau cyllido pellach.

Mae cyllido eleni’n adeiladu ar lwyddiant dwy flynedd olaf Cronfa Grantiau Bach RhAC, a helpodd i ddenu £4.6 miliwn mewn cyllido allanol, gyda £13.9 miliwn arall yn cael ei ddatblygu. Mae RhAC yn parhau i fod yn ymrwymedig i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru trwy annog cydweithredu rhwng prifysgolion a chefnogi prosiectau sydd â'r potensial i gael effaith hirdymor.

Meddai Dr Lewis Dean, pennaeth RhAC

“Rydym wedi cael llwyddiant anhygoel hyd yn hyn gyda Chronfa Grantiau Bach RhAC, gan weld elw sylweddol ar fuddsoddiad, sy’n profi faint y gellir ei gyflawni trwy gydweithio gyda swm bach o arian. 

“Mae cwmpas y prosiectau a gyllidwyd yn 2025 yn bellgyrhaeddol, o astudio microblastigau a lleihau gwastraff bwyd, i dechnoleg arloesol ar gyfer cleifion strôc. Edrychwn ymlaen at weld deilliannau’r prosiectau hyn yn y blynyddoedd i ddod.” 

Prosiectau: 

Prifysgol Bangor

A yw trawsnewid digidol yn diogelu pobl agored i niwed? Tystiolaeth o gartrefi Cymreig

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Halle er Ymchwil Economaidd a Phrifysgol Leipzig, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Bond Awstralia, Busnes Cymru, Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, Fintech Cymru, M-SParc, saith undeb credyd a dwy gymdeithas adeiladu, awdurdodau lleol/cynghorau

Yn unol â strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru, mae’r ymchwil hwn yn archwilio i sut mae trawsnewid digidol mewn sefydliadau ariannol yn effeithio ar boblogaethau agored i niwed, fel yr henoed a chymunedau gwledig. Dan arweiniad arbenigwyr sydd â phrofiad helaeth a chyllido allanol, mae’r prosiect yn cydweithio â phrifysgolion rhyngwladol ac mae’n alinio â gwaith a ariennir gan yr Academi Brydeinig i ddatblygu mewnwelediadau ac argymhellion polisi.

O infertebratau i fodau dynol: Dulliau rhyngddisgyblaethol o ddatgelu goblygiadau iechyd microblastigau 

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Llwyfan Amgylchedd Cymru

Mae’r grŵp ymchwil amlddisgyblaethol hwn yn ymchwilio i effeithiau iechyd yn sgil llyncu microblastigau ar draws rhywogaethau, a nodwyd fel mater hollbwysig mewn gweithdy a gynhaliwyd gan Lwyfan Amgylchedd Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Nod y tîm yw sicrhau cyllido pellach i astudio gwenwyndra microblastig, gydag arbenigedd yn cwmpasu iechyd dynol, imiwnoleg, ecotocsicoleg, a pholisi.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

CYLCH Bwyd Cymru

Partneriaid: Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Northumbria

Mae'r bartneriaeth hon yn archwilio'r cysylltiadau rhwng y sector bwyd a datblygu rhanbarthol, gan ganolbwyntio ar effeithiau amgylcheddol, iechyd ac economaidd. Gyda phartneriaethau allanol cryf, mae'r prosiect yn pwysleisio arloesedd cydweithredol cudd, a nodau economi gylchol i wella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff bwyd.

Datrysiadau Edge AI sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer symudedd trefol diogel a chynaliadwy 

Partneriaid: Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Hull, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Leeds, Prifysgol Maryland (Baltimore), CrowStrike UK

Nod tîm cydweithredol o bartneriaid rhyngwladol a diwydiant, gydag arbenigedd mewn deallusrwydd artiffisial (AI), seiberddiogelwch, a thechnoleg glyfar, yw datblygu technolegau trafnidiaeth diogel sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer symudedd trefol cynaliadwy. Bydd cyllido’n atgyfnerthu’r grŵp ac yn cefnogi integreiddio protocolau diogelwch AI, gan alinio â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ac arloesedd.

Prifysgol Caerdydd 

Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Prin Cymru

Partneriaid: Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru, Parc Geneteg Cymru, Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin

Er gwaethaf y ffaith bod 175,000 o bobl wedi’u heffeithio gan glefydau prin, dim ond 1.6% o gyllid ymchwil clefydau prin y DU y mae Cymru’n ei dderbyn. Mae rhwydwaith newydd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn uno gwyddonwyr, darparwyr gofal iechyd, a chlinigwyr i ddatblygu ymchwil, gwella deilliannau cleifion, a chefnogi Cynllun Gweithredu Cymru ar Glefydau Prin.

Darganfod rôl y microbiome mewn canser y prostad: Effaith cutibacterium acnes a'i fesiglau allgellog ar gelloedd canser y prostad

Partneriaid: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol mewn Canserau Wrolegol (rhan o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru)

Bydd cyllido’n galluogi tîm rhyngddisgyblaethol newydd i ymchwilio i rôl y microbiome mewn canser y prostad, gan ganolbwyntio ar ei bresenoldeb mewn tiwmorau a'r effaith bosibl ar lid a datblygiad clefydau. Mae'r grant yn talu am nwyddau traul yn y labordy i gynhyrchu data rhagarweiniol hanfodol, gan gryfhau ceisiadau yn y dyfodol i Ymchwil Canser Cymru ac UKRI.

Prifysgol Abertawe

TOMHAS: Dylanwad sut mae’r claf yn cyrraedd yr ysbyty ar driniaeth a deilliannau’r sawl yr amheuir sydd wedi dioddef strôc 

Partneriaid: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Northumbria, Hyb Strôc Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Panel Profiad y Claf a Gwerthuso mewn Ymchwil (PEER), Canolfan Gofal Sylfaenol ac Argyfwng Cymru (Canolfan PRIME Cymru), Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN), Fforwm Ymchwil Gwasanaethau Meddygol Brys 999, Defnyddwyr Gwasanaeth Ymchwil a Gofal Brys (SUPER).

Prosiect rhyngddisgyblaethol sy’n uno prifysgolion, y GIG, a grwpiau cleifion i ymchwilio i sut mae’r dull o gyrraedd yr ysbyty yn effeithio ar driniaeth a deilliannau yn achos cleifion yr amheuir sydd wedi dioddef strôc. Gan adeiladu ar gydweithio blaenorol, mae'r tîm yn gofyn am gyllid ar gyfer ymgysylltu wyneb-yn-wyneb a datblygu ymchwil i wella gofal strôc a deilliannau cleifion.

Prifysgol De Cymru

Gweithgor Diwydiannau Creadigol

Partneriaid: Holl brifysgolion Cymru trwy Gynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru RhAC, yr Eisteddfod Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol, Gogledd Creadigol, M-SParc, awdurdodau lleol, cwmnïau theatr/perfformio, artistiaid llawrydd, undebau, arbenigwyr diwydiant

Gan ddatblygu cais Cymru ar gyfer ail don o gyllid Clwstwr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), a fydd yn agor yng ngwanwyn 2025, nod y fenter yw mynd i’r afael â heriau sy’n seiliedig ar leoedd trwy ymchwil, datblygu ac arloesedd (RDI), meithrin micro-glystyrau o’r diwydiant ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o fyd busnes, polisi, a’r byd academaidd i sicrhau’r effaith fasnachol fwyaf posibl.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Datblygu robot allsgerbwd meddal ar gyfer adferiad dwylo mewn cleifion sydd wedi'u heffeithio gan strôc

Partneriaid: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Sefydliad Roboteg, Academi Gwyddorau Bwlgaria, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae prosiect cydweithredol sy’n cynnwys prifysgolion Cymru, y GIG, a phartneriaid rhyngwladol yn datblygu robot allsgerbwd meddal personol ar gyfer adferiad dwylo, gan fynd i’r afael ag anabledd sy’n gysylltiedig â strôc. Mae cyllido’n caniatáu dadansoddiad o ymarferoldeb, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chynhadledd ddosbarthu gwybodaeth, â’r nod o sefydlu partneriaethau hirdymor wedi’u halinio â blaenoriaethau iechyd rhanbarthol a chenedlaethol.