
Dyraniad ariannol newydd yn rhoi hwb i gydweithrediad ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru
Mae Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesedd a Gwyddoniaeth Iwerddon, James Lawless TD, ac Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans ASC, heddiw wedi cyhoeddi cyfanswm o €584,378 ar gyfer wyth prosiect llwyddiannus o dan fenter Gwobr y Gynghrair Ymchwil.
29 Mai 2025
Lansiwyd Dyraniad y Gynghrair Ymchwil ym mis Rhagfyr 2024 gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) a Taighde Éireann – Ymchwil Iwerddon. Mae’n rhaglen gyllido gydweithredol a gynlluniwyd i gryfhau cysylltiadau ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru, ac i ddatblygu grantiau cystadleuol ar gyfer Horizon Europe, rhaglen gyllido allweddol yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd.
Bydd y cyllid yn cynorthwyo partneriaethau ymchwil ar draws ystod amrywiol o ddisgyblaethau, gan gwmpasu meysydd arloesol o therapïau niwroddirywiol i ynni cynaliadwy a datrysiadau amgylcheddol sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, gan feithrin arloesedd a chydweithrediad rhwng sefydliadau yn Iwerddon a Chymru.
Wrth nodi’r cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Lawless:
“Mae Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng Iwerddon a Chymru a photensial aruthrol ein cymunedau academaidd yn cydweithio. Trwy fuddsoddi yn y prosiectau arloesol hyn, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer darganfyddiadau a datrysiadau arloesol a fydd o fudd i'n gwledydd a'r gymuned Ewropeaidd ehangach. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r trefniadau cydweithredol hyn yn datblygu'n fentrau ar raddfa fwy sy'n cyflawni effaith yn y byd go iawn.”
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Rydym am greu dyfodol deinamig i ni ein hunain, gan hyrwyddo arloesedd a thechnolegau newydd i gefnogi Cymru fwy gwyrdd, gyda gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb. Mae cyllido yn sgil Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn gyfle gwych i sefydliadau academaidd yng Nghymru ac Iwerddon greu partneriaethau newydd mewn ymgais i fynd i'r afael â heriau cymhleth gyda chefnogaeth y llywodraeth – yn unol ag uchelgeisiau’r Datganiad a Rennir a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 rhwng Iwerddon a Chymru. Edrychaf ymlaen at weld y fenter hon yn adeiladu ymhellach ar enw da Cymru fel magnet ar gyfer cydweithio a rhagoriaeth mewn arloesedd.”
Wrth groesawu’r dyraniad, meddai Celine Fitzgerald, Prif Weithredwr sefydliad Ymchwil Iwerddon:
“Mae'r rhaglen wobrwyo hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i feithrin trefniadau ymchwil cydweithredol rhyngwladol effeithiol. Mae cefnogi'r partneriaethau Iwerddon-Cymru hyn yn cryfhau ein hecosystem ymchwil a rennir, gan osod ein hymchwilwyr mewn sefyllfa dda i lwyddo yng nghyd-destun Horizon Europe. Mae'r prosiectau hyn yn enghraifft o bŵer cydweithio trawsffiniol wrth fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd.”
Ychwanegodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Paul Boyle:
“Mae penderfyniad y DU i ail-gysylltu â Horizon Europe yn 2024 yn gyfle gwych i ymchwilwyr o Gymru fod yn rhan o raglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd. Mae’r rhaglen hon ar y cyd rhwng Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Ymchwil Iwerddon yn rhoi cymorth i ymchwilwyr o Gymru adeiladu cysylltiadau newydd a chryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes â'u cymheiriaid yn Iwerddon. Rwy’n falch iawn y gall RhAC hwyluso’r fenter hon i arddangos rhagoriaeth ymchwil Cymru ar lwyfan rhyngwladol a sefydlu mentrau cydweithredol er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang.”
Mae'r prosiectau y dyfarnwyd cyllid iddynt yn cynnwys:
- NIWRAL: Y genhedlaeth nesaf o Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer Rhybudd Cyfamserol o Drawiad/Strôc - cydweithrediad rhwng Coleg Prifysgol Dulyn a Phrifysgol Caerdydd
- Trefniant cydweithredol newydd i fynd i’r afael â’r Bygythiad o Bla Tatws “Difethwr Planhigion” – cydweithrediad rhwng Coleg Prifysgol Corc a Phrifysgol Aberystwyth
- Cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru i Hyrwyddo Arloesiadau Batris Metel Sodiwm Di-anod – cydweithrediad rhwng Prifysgol Limerick a Phrifysgol Abertawe
Mae Dyraniad y Gynghrair Ymchwil yn darparu cyllid sbarduno i ymchwilwyr yn Iwerddon a Chymru i ddatblygu cynigion ar y cyd ar gyfer Horizon Europe a rhaglenni cyllido Ewropeaidd eraill dros gyfnod o bedwar i 12 mis. Bydd y prosiectau a ariennir yn cryfhau cydweithrediad academaidd-diwydiannol rhwng Iwerddon a Chymru, yn cefnogi cynigion cystadleuol am arian Horizon Europe, ac yn hwyluso symudedd ymchwilwyr, gweithdai, a gweithgareddau ymchwil ar y cyd.
Mae'r sefydliadau y dyrannwyd arian iddynt yn cynrychioli pedwar sefydliad addysg uwch yng Nghymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor) a phedwar sefydliad addysg uwch yn Iwerddon (Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Limerick, Coleg Prifysgol Corc, a Phrifysgol Dinas Dulyn).