Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru-gyfan (AWPAC) yn dwyn ynghyd bob un o bedwar heddlu Cymru, swyddfeydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn ogystal â phrifysgolion ledled y wlad i adeiladu sylfaen gryfach, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer ymchwil plismona. 

Mae AWPAC yn meithrin partneriaethau rhwng cymunedau plismona ac academaidd, yn cryfhau cyfleoedd i sicrhau cyllid ymchwil allanol ar y cyd, ac yn helpu i rannu arferion gorau ac ymchwil sy'n seiliedig ar bolisi er mwyn gwella bywydau ledled Cymru. Ers ei sefydlu, mae AWPAC wedi ariannu prosiectau cydweithredol aml-flwyddyn sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau brys fel cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a merched, a chynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona.

Nodau strategol:

  • Meithrin partneriaethau teg ar gyfer cydweithio ar lefel 'Cymru gyfan' rhwng yr heddlu a'r sectorau academaidd.  
  • Galluogi partneriaethau 'Cymru Gyfan' i greu ceisiadau cydweithredol mwy, i gyrchu cyllid grant allanol ar lefel 'Cymru Gyfan'.  
  • Gweithio mewn partneriaeth i greu effaith ymchwil, bod o fudd i bolisïau’r heddlu ac i rannu arfer gorau ledled Cymru.   

Ffocws AWPAC ar gyfer 2024-2028 yw cynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu.

Mae’r trefniant cydweithredol yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o brifysgolion Cymru, pedwar heddlu Cymru a’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Caiff y grŵp llywio ei gyd-gadeirio gan yr Athro Martina Feilzer o Brifysgol Bangor a’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dros Dro Ross Evans o heddlu Dyfed-Powys.