Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau cydweithredol academaidd-plismona yng Nghymru
Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) wedi agor ceisiadau ar gyfer ei rownd nesaf o gyllido ar gyfer ymchwil, gyda’r nod o feithrin prosiectau arloesol, effeithiol a fydd yn hyrwyddo arferion plismona ledled Cymru.
22 November 2024
Wedi'i hwyluso gan Rwydwaith Arloesedd Cymru, mae AWPAC yn gwasanaethu fel llwyfan sy'n cysylltu ymchwilwyr a heddluoedd ledled Cymru. Yn ddiweddar, llwyddodd AWPAC i sicrhau cyllid o £232,600 gan y Pwyllgor Plismona yng Nghymru i ymestyn eu gwaith effeithiol am bedair blynedd arall a chefnogi ymdrechion parhaus i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer plismona yng Nghymru.
Eleni, bydd pedwar prosiect dwy-flynedd newydd yn derbyn cyllid gan AWPAC i gynnal ymchwil sy'n canolbwyntio'n benodol ar gynyddu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona, gyda phwyslais ar effaith yn y byd go-iawn a chynaladwyedd yn y dyfodol.
Mae’n ofynnol i bob prosiect ddangos ymagwedd Cymru-gyfan, gan annog cydweithio ymhlith prifysgolion a heddluoedd Cymru i sicrhau bod y canfyddiadau’n cael dylanwad eang ac y gellir eu cymhwyso’n effeithiol i arferion plismona ledled y wlad. Mae'r cylchred cyllido newydd yn adeiladu ar genhadaeth AWPAC i sefydlu partneriaethau academaidd-heddlu cryf mewn meysydd fel trais yn erbyn menywod a merched.
Mae ymchwil a ariannwyd gan AWPAC yn y gorffennol wedi arwain at fewnwelediadau pwysig, gan gynnwys astudiaeth gan Brifysgol Bangor yn archwilio casineb tuag at fenywod fel ffactor risg mewn cam-drin domestig, a gwerthusiad Prifysgol Caerdydd o unedau heddlu arbenigol sy'n ymdrin ag achosion o drais yn erbyn menywod a merched. Mae canfyddiadau’r prosiectau hyn eisoes wedi ffurfio sail i hyfforddiant, asesu risg, ac argymhellion gweithdrefnol ar gyfer heddlu Cymru, gan danlinellu potensial cydweithio academaidd i lunio strategaethau’r heddlu a gwella diogelwch y cyhoedd.
Un o brif nodau prosiectau AWPAC eleni yw ysgogi rhaglenni ymchwil cynaliadwy a fydd, nid yn unig yn gwella arferion plismona cyfredol, ond hefyd yn denu cyllid yn y dyfodol o ffynonellau ychwanegol. Disgwylir i ganfyddiadau’r prosiectau hyn arwain strategaethau’r dyfodol a llywio sesiynau briffio ar gyfer heddluoedd ledled Cymru, gan helpu i osod safonau newydd mewn tryloywder, atebolrwydd ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae ceisiadau bellach ar agor i gydweithwyr o brifysgolion Cymru a’r heddlu wneud cais. Gofynnir i bartneriaethau lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen hon a'i dychwelyd i innovation.network@uniswales.ac.uk erbyn dydd Iau 31ain Ionawr 2025. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn dydd Llun 31ain Mawrth 2025.