Cydweithrediadau academaidd-heddlu yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru
Mae cyfres o brosiectau ymchwil arloesol, a gynhaliwyd gan brifysgolion Cymru mewn partneriaeth â heddluoedd, wedi cymryd camau breision mewn ymchwil i batrymau ac atal trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) yng Nghymru.
19 September 2024
Ariennir y prosiectau hyn trwy Gydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) - rhwydwaith cydweithredol ar gyfer ymchwil plismona yng Nghymru, wedi’i hwyluso gan Rwydwaith Arloesi Cymru (WIN).
Mae un o’r prosiectau, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gasineb tuag at fenywod fel ffactor risg ar gyfer niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig. Gyda chyllid o bron i £21,000, cynhaliodd y tîm ymchwil ddadansoddiad manwl o ffeiliau achos, gan gyfweld â dioddefwyr i geisio canfod a yw ymagweddau gwrth-fenywod yn cyfrannu at ymddygiad treisgar. Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod casineb tuag at fenywod yn ffactor risg hollbwysig y mae angen mwy o bwyslais arno mewn hyfforddiant ar gyfer yr heddlu ac asesiadau risg. Disgwylir i'r prosiect ffurfio sail i weithdrefnau'r heddlu yn y dyfodol a chyfrannu at waith ymchwil parhaus.
Rhoddodd prosiect Prifysgol Caerdydd ystyriaeth i unedau heddlu arbenigol ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched o amgylch Cymru. Y bwriad oedd nodi arferion gorau i'w gweithredu'n ehangach trwy ddod â chynrychiolwyr o'r pedwar heddlu yng Nghymru ynghyd i rannu eu canfyddiadau. Roedd hyn yn adeiladu ar werthusiad o 'Operation Diogel', uned arbenigol yng Nghaerdydd a'r Fro a oedd â'r nod o wella deilliannau diogelu dioddefwyr a chyfiawnder troseddol. Rhannwyd canfyddiadau’r ymchwil gyda’r Tasglu Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ym mis Mehefin, ac yng nghynhadledd flynyddol gyntaf y Ganolfan Dyfodol y Rhai sy’n Agored i Niwed a Phlismona’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym mis Medi.
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru werthusiad proses o gam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu. Mae'r astudiaeth yn adeiladu ar ymchwil blwyddyn 1 a ariannwyd gan AWPAC, gan ganolbwyntio ar weithredu cynllun peilot cymorth eiriolaeth dwy flynedd i ddioddefwyr. Datblygodd y prosiect fodel Theori Newid i arwain a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad hwn. Mae canfyddiadau cynnar yn amlygu gwaith partneriaeth llwyddiannus a gwell cymorth i ddioddefwyr, gyda’r potensial i ehangu ledled Cymru.
Mae'r prosiectau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithrediadau rhwng y byd academaidd a’r heddlu wrth ddatblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i frwydro yn erbyn VAWG. Wrth i’r mentrau hyn fynd rhagddynt, disgwylir iddynt gyfrannu’n sylweddol at bolisi ac ymarfer, gan sicrhau ymateb mwy effeithiol i drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru a thu hwnt.