Wedi’i sefydlu ym mis Mawrth 2022, nod AWPAC yw creu sylfaen dystiolaeth ehangach ar gyfer plismona yng Nghymru gan ddod â phedwar heddlu Cymru a phrifysgolion Cymru ynghyd drwy Rwydwaith Arloesedd Cymru (WIN).  

Yn dilyn cyfarfod cydweithredu ar-lein ar 22ain Tachwedd 2022, dyrannwyd cyllid ar gyfer pum prosiect, gan ganolbwyntio ar y meysydd gwaith canlynol: 

  • Pobl fregus: cam-drin domestig, stelcian ac aflonyddu 
  • Trais yn erbyn menywod a merched    
  • Cynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona    
  • Ffurfio partneriaethau newydd i ddylanwadu'n gadarnhaol a llywio polisïau ac athrawiaeth Plismona'r DU   

Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru: 

“Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru-Gyfan yn gyfle gwych i adeiladu ar lwyddiant trefniadau lleol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru rhwng heddluoedd a phrifysgolion.  

“Mae gan y pedwar prosiect hyn y potensial i ddatblygu ymchwil yr heddlu ymhellach yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld sut y byddant yn datblygu.” 

Meddai’r Uwch-arolygydd Ross Evans, Cadeirydd Dros-dro AWPAC: 

“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r fenter hon a all chwarae rhan mor bwysig wrth ddod â phrifysgolion a heddluoedd ledled Cymru ynghyd. 

“Roeddwn yn arbennig o falch o weld y prosiectau llwyddiannus yn defnyddio ymagwedd mor eang dros Gymru-gyfan, gydag enghreifftiau o gydweithio ac ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid ledled y wlad.

“Drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth, gall y prosiectau hyn gael effaith wirioneddol ar blismona yng Nghymru.”

Prosiectau

Prosiect rhannu data Cymru-gyfan

Dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, nod y prosiect hwn yw gosod y sylfeini allweddol ar gyfer prosiect ‘rheoli pontio Cymru-gyfan’ mwy sylweddol i ddynodi’r prif ffactorau sy’n weithredol yn ystod y cyfnod pontio o lencyndod i fod yn oedolyn a allai waethygu neu liniaru achosion o droseddu difrifol a’u canlyniadau i ddioddefwyr a throseddwyr. Bydd hefyd yn darparu mecanwaith i alluogi’r heddlu, partneriaid academaidd a phartneriaid eraill o bob rhan o Gymru i archwilio’r potensial ar gyfer prosiectau cysylltiedig eraill, a gosod y sylfeini ar eu cyfer.  

Partneriaid y prosiect: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Pedwar Heddlu Cymru 
 

Effeithiau sylw yn y cyfryngau cenedlaethol ar ymddiriedaeth a hyder lleol 

Dan arweiniad Prifysgol Bangor, nod y prosiect hwn yw darganfod sut mae digwyddiadau mewn mannau eraill yn effeithio ar ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu’n lleol, gyda chymhariaeth ymhlith myfyrwyr blwyddyn gyntaf yng Nghymru ac yn Llundain. Bydd ymddiriedaeth yn yr heddlu’n cael ei fesur yn ôl effeithiolrwydd canfyddedig, cyfiawnder dosbarthol, a thegwch gweithdrefnol. Gofynnir i fyfyrwyr nodi o ba ffynonellau y maent wedi derbyn adroddiadau cadarnhaol ac o ble maen nhw wedi clywed pethau negyddol ynghylch gwaith yr heddlu a pha agweddau sydd wedi'u cyfleu. 

Partneriaid y prosiect: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Dwyrain Llundain, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Sunderland, Prifysgol Gorllewin Llundain, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru 
 

Dealltwriaeth a gweithrediad yr heddlu o'r cysyniad o fod yn agored i niwed wrth ymateb i anghenion gweithwyr rhyw yng Nghymru 

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth a gweithrediad yr heddlu o’r cysyniad o fod yn 'agored i niwed' wrth ymateb i anghenion gweithwyr y diwydiant rhyw yng Nghymru.  

Bydd o gymorth i heddluoedd i alinio eu canfyddiadau o fregusrwydd gyda chanllawiau NPCC ar gynnig cymorth i weithwyr rhyw, gan eu galluogi i adnabod anghenion cefnogaeth gweithwyr rhyw, lleihau’r trais a chamfanteisio a brofir gan weithwyr rhyw, adeiladu hyder ac ymddiriedaeth mewn ymatebion plismona a chefnogi gwaith gwasanaethau cymorth y trydydd sector 

Partneriaid y prosiect: Prifysgol De Cymru, Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  
 

Anogaeth a rhwystrau i fyfyrwyr wirfoddoli gyda’r Heddlu 

Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, bydd y prosiect hwn yn ceisio gwerthuso'r ffactorau sy’n annog a'r rhai sy'n rhwystro myfyrwyr rhag gwirfoddoli gyda’r heddlu wrth astudio ar gyfer Gradd Broffesiynol mewn Plismona wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd yna grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ym mhob un o’r tair blynedd o gwrs Gradd Broffesiynol mewn Plismona ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarganfod a ydynt yn gwirfoddoli’n ffurfiol gyda’r heddlu i ddeall beth yw’r cymhellion, yn ogystal â’r heriau y maent yn eu hwynebu. Bydd trafodaethau gyda'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn gwirfoddoli i ddeall y rhesymau y tu ôl i'w penderfyniadau ac a yw’r rhwystrau y maent o bosib yn eu hwynebu’n eu hatal rhag gwirfoddoli. 

Partneriaid y prosiect: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Heddlu De Cymru 
 

Mynd i'r afael â cham-drin domestig o fewn yr heddlu – archwilio ymateb heddluoedd Cymru i ddioddefwyr a throseddwyr fel gweithwyr  

Dan arweiniad y Brifysgol Agored, mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng presennol o ran cyfreithlonrwydd yr heddlu o ran cam-drin domestig o fewn yr heddlu.   

Mae trais yn erbyn menywod a gyflawnwyd gan swyddogion heddlu cyfredol, e.e. David Carrick a Wayne Cousins, wedi tanseilio ymddiriedaeth yn yr heddlu. Ar ben hynny, er gwaethaf mwy o sylw i weithwyr yr heddlu fel cyflawnwyr troseddau, prin yw'r ffocws o hyd ar swyddogion a staff yr heddlu staff fel dioddefwyr posibl.   

Yng Nghymru, mae'r cyd-destun cenedlaethol yn bwysig er mwyn deall sut mae heddluoedd yn mynd i'r afael â cham-drin domestig o fewn yr heddlu. Mae'r pedwar heddlu yn gweithredu o dan ddeddfwriaeth ddatganoledig (e.e. Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, 2015) y ogystal â chylch gwaith y Swyddfa Gartref. Mae’n bwysig felly deall sut y gallai hyn effeithio ar y ymagwedd(au) a ddefnyddir wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa.  

Partneriaid y prosiect: Prifysgol De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru