“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw o’r Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru.  

“Wrth i’r economi barhau i esblygu, bydd gan ein prifysgolion rôl hanfodol i’w chwarae wrth gyflwyno sgiliau ar gyfer y dyfodol mewn meysydd fel Deallusrwydd Artiffisial, STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes. 

“Yng ngoleuni hyn, rydym yn croesawu'n arbennig gydnabyddiaeth yr adolygiad o'r angen am aliniad fertigol ac eglurder llwybrau dilyniant. Drwy ddarparu llwybr clir a di-dor drwy gydol y daith gymwysterau – o Lefel 2/3 hyd at Lefel 6 – gallwn ddarparu’r lefel uchel o sgiliau sydd eu hangen ar y wlad i gynnal economi’r dyfodol. 

“Roeddem yn falch o gael y cyfle i fod yn rhan o’r grŵp llywio ar gyfer yr adolygiad cymwysterau galwedigaethol hwn. Wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod sector addysg uwch Cymru mewn sefyllfa dda i ddiwallu anghenion economi Cymru yn y dyfodol.  

“Mae sefydlu’r Comisiwn ar Addysg Drydyddol yn cynnig cyfleoedd pellach i wella ein cysylltiadau helaeth ag addysg bellach a chweched dosbarth, yn ogystal â chydweithio i ddarparu sgiliau hanfodol i ddysgwyr ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.”