Ymateb Prifysgolion Cymru i Gynllun Strategol Medr
Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-30. Mewn ymateb i’r cynllun, dywedodd Prifysgolion Cymru:
12 Mawrth 2025
“Rydym yn croesawu cyhoeddi cynllun strategol Medr sy’n disgrifio gweledigaeth y Comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae ei amseriad hefyd i’w groesawu o ystyried yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth y cynllun o lawer o feysydd pwysig ac allweddol, gan gynnwys yr angen i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol a hyfforddiant.
“Rydym yn falch o weld ffocws cynyddol ar ymagwedd fyd-eang o fewn y cynllun. Mae rhyngwladoli yn hanfodol i sector addysg drydyddol Cymru, gan gyfrannu’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol yn ogystal ag yn ariannol ac yn economaidd, ac mae’n hollbwysig cydnabod y cyfraniad hwn ac adeiladu arno.
“Trwy gydol y broses o ddatblygu’r cynllun strategol, rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gyfrannu mewnbwn a chymryd rhan mewn ymgynghoriad gwirioneddol.
“Wrth i ni symud at weithredu’r strategaeth, edrychwn ymlaen at gydweithio’n effeithiol gyda Medr a’r sector ehangach i sicrhau sector addysg drydyddol ac ymchwil ffyniannus yng Nghymru sydd o fudd i ddysgwyr, cymdeithas, a’r economi.”