'Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu datganiad o flaenoriaethau ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sy'n cynnwys ystyriaeth o gyfranogiad mewn addysg. Gyda llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn dewis mynd ymlaen i addysg uwch, a heriau cyfranogiad ar draws y sector ôl-16, bydd yn hanfodol bod y Comisiwn yn gweithio i ddeall sut i wella a chefnogi cyfranogiad Cymru mewn addysg a hyfforddiant er mwyn sicrhau cyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth hon o fyfyrwyr a chenedlaethau'r dyfodol. 

'Yn fwy cyffredinol, mae’r symudiad i lai o fiwrocratiaeth a system sy’n seiliedig ar risg i’w groesawu, yn enwedig o ystyried yr heriau ariannol sylweddol y mae addysg uwch yng Nghymru yn eu hwynebu, yn bennaf oherwydd pwysau chwyddiant sylweddol. 

'Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda'r Comisiwn i ddatblygu eu cynllun strategol, gan gynnwys cyflwyno’r achos dros rôl y Comisiwn fel eiriolwr dros ymchwil ac arloesedd Cymru o fewn y DU.'