Mae’r adroddiad yn canfod nad yw’r llwybr ‘yn tanseilio uniondeb ac ansawdd system addysg uwch y DU’ ac yn wir, mae’n cadarnhau ei fod yn cefnogi Strategaeth Addysg Ryngwladol y Llywodraeth.

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd yr Athro Paul Boyle:

“Rydym yn hynod falch o weld argymhelliad MAC y dylai’r Llwybr Graddedigion aros yr un fath.

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn rhan bwysig o gymunedau ledled y wlad, gan ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd eang i brifysgolion a thu hwnt. . Ac, fel y mae adroddiad MAC yn ei gwneud yn glir, mae’r rhai sy’n parhau i weithio yn y DU ar y Llwybr Graddedigion yn gyfranwyr net i’n heconomi genedlaethol.

“Mewn marchnad recriwtio fyd-eang gystadleuol, mae’r Llwybr Graddedigion yn hanfodol i’n gallu i gystadlu fel cyrchfan astudio, ac mae’n hollbwysig i gynaladwyedd parhaus y sector Addysg Uwch. Mae newidiadau polisi a gyflwynwyd yn gynharach eleni eisoes wedi cael effaith sylweddol, gyda nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol wedi gostwng yn sylweddol ers eu gweithredu.

'Yng Nghymru, mae gennym gyfran is o raddedigion yn ein gweithlu, sy'n gwneud y Llwybr Graddedigion yn arf arbennig o bwysig wrth fynd i'r afael â'n hanghenion sgiliau.

“Nodwn argymhellion yr adolygiad ynghylch y defnydd o asiantau. Mae pob prifysgol yng Nghymru wedi ymrwymo i'r Fframwaith Ansawdd Asiantau, ac wedi cytuno ar set o egwyddorion ynghylch arferion recriwtio moesegol a chynaliadwy. Fodd bynnag, mae lle i adeiladu ar yr hyn y mae prifysgolion eu hunain eisoes wedi’i wneud i roi’r newidiadau hyn ar waith a chynyddu gwytnwch yn y system.

Ond yr hyn sydd ei angen ar y sector nawr yw sefydlogrwydd. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i wrando ar argymhellion yr adolygiad hwn a gomisiynwyd gan y llywodraeth a rhoi sicrwydd pendant bod y fisa Graddedigion yma i aros.”