Mae cynnyrch blaenllaw'r cwmni, UniSteps, yn cynnig llywio campws a dinas, nodweddion ymgysylltu cymdeithasol, a model hysbysebu Talu-Fesul-Cam (PPS). Mae'n helpu myfyrwyr i deimlo'n fwy cysylltiedig tra'n galluogi busnesau lleol i ddenu traffig traed myfyrwyr.

Sefydlwyd Unifying Services Ltd gan Bradley Lewis Bunce sydd â chefndir mewn Cyfrifiadureg gyda Dylunio Creadigol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yno, bu’n gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Entrepreneuriaeth gan gychwyn ar daith Unifying Services.