
Trawsnewid Bywydau - Mike Hedges MS
Astudiodd Mike Hedges AS y pwnc Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe cyn mynd ymlaen i ennill ei gymhwyster TAR ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna, dychwelodd i Brifysgol Abertawe i astudio am ei radd Meistr.
Ar ôl graddio, bu Mike yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil i’r British Steel Corporation ym Mhort Talbot, cyn dod yn uwch ddarlithydd, gan arbenigo mewn cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth.
Mae Mike wedi bod yn ymwneud â gwleidyddiaeth ers 1995 pan gafodd ei ethol i gynrychioli ardal Treforys ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Mae bellach yn wleidydd Llafur Cymreig ac wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros etholaeth Dwyrain Abertawe ers 2011.
Dywed Mike fod ei gyfnod yn y brifysgol wedi cynnig llawer o gyfleoedd iddo ac wedi’i alluogi i ymgeisio am fwy o swyddi.