
Trawsnewid Bywydau - Keshlan Padayachee
Ar ôl amhariad y pandemig, penderfynodd Keshlan Padayachee ddilyn ei freuddwyd o fod yn archeolegydd. Gadawodd ei yrfa mewn peirianneg i astudio archeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gyflawni gradd Anrhydedd Dosbarth-Cyntaf ac ennill Ysgoloriaeth Clarendon yng Ngholeg Wolfson Rhydychen.
Roedd gan Keshlan Padayachee bob amser ddiddordeb dwfn mewn hanes ac archeoleg. Fodd bynnag, oherwydd diffyg cynrychiolaeth yn y meysydd hyn, canolbwyntiodd yn hytrach ar y gwyddorau a dilyn gyrfa fel peiriannydd diwydiannol.
Ar ôl y tarfu fu yn sgil pandemig, penderfynodd Keshlan mai dyma ei gyfle olaf – a gadawodd ei yrfa mewn peirianneg i ddilyn gradd mewn archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol yn y dyniaethau, rhagorodd Keshlan yn ei astudiaethau. Mae wedi cynnal cloddfeydd archeolegol mewn lleoliadau yn Wiltshire, Denmarc, Pompeii a Rhufain, gyda'i ddarganfyddiadau o'r cloddfeydd yn Wiltshire i’w gweld mewn arddangosfa yn Amgueddfa Salisbury.
Dyfarnwyd gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Keshlan ac mae ei lwyddiant academaidd bellach wedi ennill Ysgoloriaeth Clarendon iddo yng Ngholeg Wolfson Rhydychen, gan ddod ag ef yn nes at ei freuddwyd o ddod yn academydd mewn archeoleg.