“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio gyda phlant o oedran ifanc, ond doeddwn i byth yn siŵr pa lwybr i’w ddewis ar wahân i wybod fy mod eisiau gweithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar. Yn ffodus, y radd a ddewisais oedd 'Astudiaethau Addysg' gyda llwybr dewisol Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Rhoddodd y radd gyfleoedd a phrofiadau amrywiol i mi wella fy ngwybodaeth am y Blynyddoedd Cynnar, ac roedd yn cwmpasu swyddi a diddordebau di-rif. Caniataodd hyn i mi weld y cyfleoedd oedd ar gael a helpodd fi i benderfynu beth roeddwn i wir eisiau ei wneud ar ôl i mi raddio.

Fe wnaeth astudio ym Met Caerdydd wella fy hyder yn aruthrol trwy gwrdd â phobl newydd, darlithwyr, cyflwyniadau unigol, profiad gwaith a llawer mwy. Roedd y darlithwyr a’r staff ar y cwrs gradd yn wych; roedden nhw’n ein hadnabod ni i gyd yn unigol ac roeddwn i’n teimlo bod hyn wir wedi rhoi’r hyder oedd ei angen arnaf ar ôl i mi raddio. Roedd yn wir yn teimlo fel un teulu mawr wrth astudio ym Met Caerdydd!

Ar ôl i mi raddio, es i weithio mewn meithrinfa. Roeddwn i'n gwybod nad dyma'r llwybr roeddwn i eisiau bod arno; fodd bynnag, roeddwn i angen profiad yn y sector wrth i mi feddwl sut y gallwn i ddefnyddio fy ngradd.

Yn 2018, cefais syniad busnes o Ganolfan Chwarae Rôl i Blant, gan fod pwysigrwydd dysgu trwy chwarae yn cael effaith fawr ar ddatblygiad plentyn.

Mae astudio ym Met Caerdydd wedi fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwydion o agor fy musnes fy hun gan roi'r hyder a'r hwb yr oedd eu hangen arnaf. Rwyf wedi defnyddio fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth yn sgil fy ngradd wrth sefydlu Canolfan Chwarae Rôl Little Dinos, sy’n darparu amgylchedd hwyliog a diogel i blant archwilio eu dychymyg a bod yn unrhyw beth ac yn bopeth.

Rydw i mor falch fy mod wedi agor fy musnes fy hun. Does dim byd mwy gwerth-chweil na gwylio plant yn bwrw iddi wrth chwarae.”

Darllenwch fwy am daith Ffion

Photo of Ffion. Black text on orange background: "Mae astudio yn y brifysgol wedi fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwydion o agor fy musnes fy hun gan roi'r hyder a'r hwb yr oedd eu hangen arnaf.