Ar ôl profi trawma fel oedolyn, derbyniodd Cathy gefnogaeth anhygoel gan wasanaethau fel cymorth i ddioddefwyr. Roedd hi eisiau rhoi’n ôl a chefnogi eraill trwy brofiadau tebyg, ac felly penderfynodd astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Wrecsam.

I ddechrau, roedd Cathy yn ei chael hi'n anodd ac yn teimlo ei bod allan o'i dyfnder. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth tiwtoriaid, gwasanaethau academaidd, a chwnsela fe orchfygodd y rhwystrau, gan fynd ymlaen yn y pen draw i ennill gradd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd. Yn dilyn hyn, doedd Cathy ddim yn barod i'w thaith addysgol ddod i ben, a chychwynnodd ar MA mewn Troseddeg.

Dyma pryd y dechreuodd Cathy ymwneud â’r prosiect Trawma a Phrofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE) oedd yn cynnig cyfleoedd i addysgu eraill am drawma a’i effeithiau.

Ar ôl cwblhau ei MA, dechreuodd Cathy astudio ar gyfer ei chymhwyster Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) i ehangu ei gwybodaeth ymhellach. Fel rhan o hyn mae hi wedi sicrhau lleoliad gwaith yn yr adran Droseddeg yn y Brifysgol, lle mae'n cyflwyno gweithdai academaidd a darlithoedd.

Mae Cathy hefyd yn cynnal gweithdai hyrwyddwyr TrACE ar gyfer myfyrwyr i helpu â datblygu dealltwriaeth o drawma a’i effaith eang, ac i hyrwyddo diwylliant sy’n gwreiddio caredigrwydd, tosturi a pharch mewn arfer bob dydd.

Mae Cathy yn hynod falch o’i thaith addysgiadol hyd yma, ac ar hyn o bryd mae’n ystyried cwblhau PhD pan fydd yn gorffen y PCET, gan ei bod eisiau helpu i gymell ac annog eraill.

“Oni bai am addysg fyddwn i ddim wedi canfod fy mhwrpas fy hun y tu hwnt i fod yn fam, ac yn ddarparydd.”

“Rwyf wedi dod yn llawer mwy hyderus ym mhob agwedd ar fy mywyd. Rwy’n teimlo nad oes unrhyw beth na allwch chi ei gyflawni os ydych chi’n ddigon angerddol yn ei gylch.”

Photo of Cathy. White quote text on purple background: "Oni bai am addysg fyddwn i ddim wedi canfod fy mhwrpas fy hun y tu hwnt i fod yn fam, ac yn ddarparydd. Rwyf wedi dod yn llawer mwy hyderus ym mhob agwedd ar fy mywyd."