![Aerial view of the site of the new rail research and innovation centre](/sites/default/files/styles/large/public/2023-07/RB5TH-GCRE-Overview-768x512.jpg?h=fbaf4b84&itok=GbTMzOw9)
Prifysgolion yn ennill £15m ar gyfer Canolfan Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd newydd
Mae sefydliad Ymchwil ac Arloesedd y DU wedi cyhoeddi bod £15m ar gael i sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Profion, Dilysu a Phrofiad Cwsmeriaid Rheilffordd yng Nghanolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yn Ne Cymru.
12 July 2023
Roedd Rhwydwaith Arloesedd Cymru yn falch o gael hwyluso cyfranogiad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe drwy weithio gyda Phrifysgol Birmingham a Chanolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd i ganfod y partneriaid cywir ar gyfer y prosiect.
Bydd y ganolfan newydd yn hyrwyddo arloesedd, ymchwil a datblygiad ym maes rheilffyrdd, yn ogystal â chyfrannu at amcanion datgarboneiddio a chynaladwyedd Llywodraeth Cymru.