Wedi'i lansio heddiw yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, mae Prifysgolion dros Gymru gryfach yn nodi gweledigaeth feiddgar o sut y gall prifysgolion helpu i adeiladu gwlad fwy medrus, llewyrchus a hyderus. 

Gan gydnabod yr ansefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd, mae'r maniffesto yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y bydd prifysgolion yn ei chwarae wrth ddatblygu'r sgiliau sy'n grymuso unigolion i ffynnu a chystadlu yn y dirwedd hon sy'n esblygu'n gyflym.

“Mae hon yn foment hollbwysig i gymdeithas, ac i’n sector ni,” meddai’r Athro Elwen Evans KC, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, wrth siarad yn y digwyddiad lansio.

“Mae dyfodol Cymru’n dibynnu ar ein gallu i feithrin talent, ysgogi arloesedd a darparu pobl â’r sgiliau i ffynnu mewn byd newydd sy’n symud yn gyflym. 

“Rhagwelir y bydd angen 400,000 yn rhagor o raddedigion ar Gymru erbyn 2035. Nid dim ond rhywbeth yr hoffem ei weld mo hyn - yn hytrach, mae'n angenrheidiol os ydym am adeiladu'r economi, y gwasanaethau cyhoeddus, a'r cymunedau y mae ein pobl yn eu haeddu. Yn syml iawn: ni fydd twf heb raddedigion.”

Mae maniffesto Prifysgolion Cymru yn galw am gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau dyfodol addysg uwch yng Nghymru, ac yn amlinellu pum maes allweddol lle mae prifysgolion yn helpu i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol:

  • Creu swyddi a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol
  • Ysgogi cyfleoedd a symudedd cymdeithasol
  • Datblygu datrysiadau i heriau dwys
  • Cefnogi cymunedau Cymru
  • Pontio Cymru a'r byd

Ymhlith y prif ofynion, mae'r sector yn galw am:

  • Adolygiad annibynnol o gyllido prifysgolion a chymorth i fyfyrwyr er mwyn sicrhau cynaladwyedd hirdymor.
  • Adolygiad o'r system ar gyfer prentisiaethau gradd i ddiwallu anghenion economi esblygol Cymru yn well.
  • Comisiwn annibynnol ar gyfranogiad mewn addysg uwch i fynd i'r afael â'r gostyngiad mewn ceisiadau am le mewn prifysgol gan fyfyrwyr o Gymru.
  • Mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd, a mwy o gefnogaeth i fasnacheiddio
  • Cyllid strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i gefnogi prifysgolion fel sefydliadau angor yn eu cymunedau.
  • Gweithredu argymhellion 'Cymru Ar Draws Ffiniau' i gryfhau safle byd-eang Cymru mewn addysg ac ymchwil.

Mae Prifysgolion Cymru yn annog pob plaid wleidyddol i weithio gyda'r sector i gyflawni gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru gryfach - un lle mae prifysgolion wedi'u grymuso i helpu â llunio dyfodol y wlad.

Ychwanegodd yr Athro Evans:

“Mae ein prifysgolion yn fwy na dim ond canolfannau dysgu. Maent yn angorau yn eu cymunedau, yn beiriannau arloesi, ac yn byrth i'r byd. Drwy weithio gyda'r llywodraeth, busnesau a chymunedau, gallwn sbarduno cyfnod o adnewyddu cenedlaethol i Gymru, gan fynd i'r afael â heriau heddiw a datblygu atebion ar gyfer yfory.

“Pan fo prifysgolion yn llwyddo, mae Cymru’n llwyddo.”