'Roedd staff ac aelodau Prifysgolion Cymru yn drist o glywed am farwolaeth Aled Roberts. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad a Llefarydd Addysg ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bu Aled yn enghraifft o’r hyn y gallai ac y dylai gwleidydd fod: yn barod i wrando ac ymgysylltu â phobl, waeth beth oedd eu barn neu eu cefndir. Roedd ei allu i ddod â phobl ynghyd a chreu consensws hefyd o fudd iddo yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg.

'Mae ein meddyliau gyda'i deulu.'