Mae Cymru Fyd-eang yn galw am geisiadau i gronfa newydd sydd â’r nod o geisio cefnogi partneriaethau rhyngwladol rhwng prifysgolion a cholegau Cymru a'u cymheiriaid yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd. 

Diben y gronfa yw rhoi cyfle i sefydliadau yng Nghymru ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy, hirdymor gyda phartneriaid rhyngwladol trwy gydweithio’n gyntaf ar gynllun tymor byr sy’n seiliedig ar ddeilliannau prosiect sydd o ddiddordeb/blaenoriaeth i'r naill ochr a’r llall.  Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £5,000 ar gyfer pob prosiect. 

Dylai fod gan brosiectau amcanion, gweithgareddau a deilliannau disgwyliedig wedi'u diffinio'n glir (y tu hwnt i sefydlu perthnasoedd ac archwilio meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol). Er enghraifft, gallai prosiectau: 

  • gefnogi’r cynnydd mewn capasiti a/neu hyfforddiant,  

  • canolbwyntio ar addysgu/cyflwyno ar y cyd,  

  • cyflwyno gweithdai, symposia neu ddigwyddiadau. 

Bydd gweithgareddau priodol eraill yn cael eu hystyried ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â'r amodau ar gyfer cyllido a amlinellir yn y Cylch Gorchwyl

Y rhanbarthau a flaenoriaethwyd gan Gymru Fyd-eang yw: 

  • USA 

  • Canada 

  • Fietnam 

  • Karnataka, India 

  • Telangana, India 

 

Mae adborth gan randdeiliaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol wedi amlygu’r meysydd blaenoriaeth canlynol ar gyfer datblygu: 

 

  • Trawsnewid digidol 

  • Sero net, ynni gwyrdd a datgarboneiddio 

  • Technoleg-amaeth a’r economi wledig 

  • Diwydiannau creadigol a’r cyfryngau 

  • Iechyd y boblogaeth a biodechnoleg 

  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion) 

Bydd prosiectau sy'n canolbwyntio ar y meysydd hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllido, ond ni fydd ceisiadau sy'n canolbwyntio ar feysydd eraill yn cael eu hystyried yn anghymwys.  

 

Manylion cyllido

Gwahoddir sefydliadau yng Nghymru i wneud cais am gyllid hyd at £5,000 ar gyfer pob prosiect i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn y rhanbarthau a flaenoriaethwyd. Bydd ymgeiswyr yn dewis maes ffocws (yn seiliedig ar y themâu a amlinellwyd uchod) ac yn cydweithio i gyflwyno prosiect tymor byr yn y maes hwnnw. Disgwylir i weithgareddau gael eu cynnal rhwng Awst a Rhagfyr 2024. Yna rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 24 Ionawr 2025.

Gellir gweld manylion llawn yr alwad yn y dogfennau Cylch Gorchwyl

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau a thempledi ar gyfer cyllideb ac amserlen i bill.burson@uniswales.ac.uk erbyn 14 Gorffennaf 2024

Am ragor o wybodaeth neu i drafod yr alwad hon, cysylltwch â: 

Bill Burson 
Pennaeth Partneriaethau, Cymru Fyd-eang 
E-bost: bill.burson@uniswales.ac.uk