Prifysgolion Cymru yn talu teyrnged i Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts
Cafwyd y newyddion trist y bu farw Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts yr wythnos hon. Wrth ymateb i’r newyddion, meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
15 February 2022
'Roedd staff ac aelodau Prifysgolion Cymru yn drist o glywed am farwolaeth Aled Roberts. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad a Llefarydd Addysg ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bu Aled yn enghraifft o’r hyn y gallai ac y dylai gwleidydd fod: yn barod i wrando ac ymgysylltu â phobl, waeth beth oedd eu barn neu eu cefndir. Roedd ei allu i ddod â phobl ynghyd a chreu consensws hefyd o fudd iddo yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg.
'Mae ein meddyliau gyda'i deulu.'