Nod y gronfa yw harneisio cryfderau prifysgolion Cymru i gefnogi twf mewn cipio incwm ymchwil allanol a sicrhau effaith i Gymru. Darperir grantiau fel cyllid sbarduno ar gyfer datblygu cais i gyllidwyr allanol yn y DU neu'n rhyngwladol.

Cydweithio sydd wrth galon y gronfa; mae pob prosiect a ddewisir yn cynnwys partneriaethau rhwng tair neu fwy o brifysgolion yng Nghymru ac mae'r rhan fwyaf yn cynnwys partneriaethau â rhanddeiliaid allanol megis awdurdodau lleol, byrddau iechyd, llywodraeth, diwydiant, a'r gymuned. Mae'r prosiectau'n canolbwyntio ar ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys diogelwch bwyd, anghydraddoldebau iechyd, seiberddiogelwch, a threftadaeth ddiwylliannol.

Mae’r cyllido hwn yn adeiladu ar lwyddiant rownd 2023 cronfa grantiau bach RhAC (a ariannwyd ar y cyd â Chymru Fyd-eang) gyda dros £9 miliwn wedi’i gynhyrchu mewn ceisiadau am gyllid allanol.

Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru:

“Mae ansawdd y ceisiadau yn rownd eleni’r gronfa grantiau bach wedi bod yn galonogol i’w weld, gyda phrifysgolion yn cydweithio i gyflwyno ceisiadau cryf iawn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflwyno dros £100k trwy ein cronfa grantiau bach i gefnogi ymchwil cydweithredol yng Nghymru.

“Cafodd ymchwil yng Nghymru ei gydnabod yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysg (REF) 2021 am ei effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. Rwy'n arbennig o falch, felly, ein bod wedi cyllido prosiectau sy'n cynnwys partneriaid o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y llywodraeth, diwydiant, a grwpiau cymunedol er mwyn parhau i gyflawni ymchwil sy'n creu effaith.

“Sefydlwyd RhAC i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru trwy gydweithio ac, yn dilyn llwyddiant cyllido trwy grantiau bach y llynedd, rwy’n edrych ymlaen at gael gweld deilliannau’r flwyddyn hon wrth i ni gynnig cefnogaeth i’n prifysgolion i adeiladu’r partneriaethau hyn.

Prosiectau

Prifysgol Aberystwyth

Ffermio Fertigol Cymru

Partneriaid: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Vertikit Ltd

Bydd y prosiect hwn yn archwilio ffermio fertigol, amaethyddiaeth mewn amgylchedd rheoledig, diogelwch bwyd a thechnolegau amaeth-bwyd.

Rhwydwaith Algorithmau Optimeiddio ar Hap Cymru

Partneriaid: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe

Mae'r prosiect hwn yn rhwydwaith cydweithredol newydd yng Nghymru a fydd yn archwilio algorithmau ar gyfer optimeiddio ar hap (ROA), agwedd ar ddeallusrwydd artiffisial sydd wedi'i gwreiddio mewn chwilio, optimeiddio ac algorithmeg. Bydd yn manteisio ar y momentwm a grëwyd trwy ddau gam Cydweithredu Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (COST) diweddar gyda diwydiant.

Prifysgol Bangor

Bwyd Cynaliadwy Cymru

Partneriaid: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Dinas Llundain, Prifysgol Rhydychen, 24 partner anacademaidd gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Synnwyr Bwyd Cymru, Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy

Bydd y prosiect hwn yn ceisio sefydlu sut y gallai cynhyrchu bwyd lleol fynd i'r afael â materion megis newid yn yr hinsawdd, diraddio pridd, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth o ran diogelwch bwyd, gan gynnwys llwybrau bwyd cymunedol a newid system fwyd gyfannol.

Treftadaeth Ddiwylliannol Cymreig-Iddewig

Partneriaid: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Canolfan Treftadaeth Iddewig Cymru, Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, Sefydliad Treftadaeth Iddewig

Nod y prosiect hwn yw adeiladu consortiwm ymchwil i ddod â ffocws Cymreig ar waith treftadaeth ddiwylliannol Iddewig.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rhwydwaith Ymarferwyr-Ymchwil Heneiddio'n Dda Cymru

Partneriaid: Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe, Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Cymorth Llesiant Caerdydd

Bydd prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol yn cael eu datblygu sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd iechyd wrth heneiddio’n ddiweddarach mewn bywyd, gyda ffocws ar gymunedau ethnig amrywiol yng Nghymru.

Gwella Partneriaethau i ddatblygu ymyriadau ac ymchwil cydweithredol ar gyfer yr Economi Gylchol

Partneriaid: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe

Nod y prosiect hwn yw mapio darpariaeth arloesedd ar gyfer yr Economi Gylchol a chyd-gynllunio ymyriad ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig.

Prifysgol Caerdydd

Canolfan Ymchwil Trawsddisgyblaethol Teithio Llesol a Chludiant Teg Cymru

Partneriaid: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, deg partner anacademaidd gan gynnwys Cycling UK Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru

Gan adeiladu ar ddeilliannau llwyddiannus prosiect ATLAS a dderbyniodd arian yn rownd 2023 o gronfa grantiau bach RhAC, nod y prosiect hwn yw datblygu hyb i ddangos tystiolaeth a llywio polisi ac arfer ar gyfer teithio llesol a chludiant teg, sy’n flaenoriaethau allweddol yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.

Prifysgol Caerdydd

Technoleg Gynorthwyol Arloesol ar gyfer Dementia

Partneriaid: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Wolverhampton, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Bryste, naw partner anacademaidd gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Alzheimer Cymru, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

Bydd yr ymchwil hwn yn archwilio sut y gall technolegau cynorthwyol gynnig cymorth i bobl â dementia i fyw bywydau annibynnol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, gan ganolbwyntio ar sut y gall gyrraedd pob amgylchedd gwledig a threfol, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mannau Llesiant Awtistig

Partneriaid: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Anabledd Cymru, Ymchwil Gofal Iechyd Cymru (HCRW), Aubergine Café

Mae'r prosiect hwn yn ceisio gwella profiad pobl awtistig o’r system les gan ddefnyddio dulliau cyfranogol yn seiliedig ar y celfyddydau.

Prifysgol Abertawe

Ail-ddychmygu Sgiliau Entrepreneuraidd

Partneriaid: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glasgow, Prifysgol De Montfort, 13 o bartneriaid allanol gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach, Tata Steel

Mae’r prosiect hwn yn dod â chonsortiwm ynghyd, gan weithio gyda TATA Steel, cwmnïau cysylltiedig, gweithwyr, a chymunedau, i ddatblygu datrysiadau i’r aflonyddwch economaidd a chymdeithasol sy’n cael ei achosi yn sgil cau TATA Steel. Bydd yn seiliedig ar y Trawsnewid Gwyrdd a’r Strategaeth Ddiwydiannol Ranbarthol, gyda chysylltiad ag entrepreneuriaeth, trosglwyddo gwybodaeth, rheoli’r gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a gwydnwch economaidd.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Menywod

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Lerpwl

Bydd y rhwydwaith amlddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar ymchwil iechyd menywod gyda'r nod o ddatblygu prosiectau rhyng-gysylltiedig trwy gyfarfodydd rhyngweithiol a gweithdai, yn ogystal â chefnogi blaenoriaethau a chynlluniau gweithredu'r llywodraeth.

Delweddu Uwch o Ddeunyddiau

Partneriaid: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Wrecsam

Bydd y prosiect hwn yn datblygu rhwydwaith cyfleusterau craidd rhanbarthol ar gyfer delweddu uwch o ddeunyddiau i gynorthwyo Cymru ag anghenion delweddu a nodweddu.

Prifysgol De Cymru

Consortiwm IntelliCAV Cymru

Partneriaid: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Mohammed VI Polytechnic Morocco

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf o gerbydau cysylltiedig a hunanreolaethol, gyda'r nod o ddatblygu rhwydwaith amlddisgyblaethol gan gynnwys seiberddiogelwch, systemau deallus, symudedd cysylltiedig a rheoli enw da.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Cymru a'i Diwylliant Llenyddol Byd-eang

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar y Gymru lenyddol a’i statws rhyngwladol a chysylltedd trwy gyfieithu, cyhoeddi a chydweithio gyda’r nod o fapio ac olrhain sut mae’r gwaith yn cael ei ddosbarthu a’i dderbyn yn fyd-eang.

Prifysgol Wrecsam

Adrodd straeon fel dull ar gyfer newid mewn gwasanaethau iechyd, gofal a llesiant yng Nghymru

Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Durham, 14 partner anacademaidd gan gynnwys Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, cynghorau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd y prosiect yn adeiladu rhwydwaith ymchwil cenedlaethol o academyddion, llunwyr polisi, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector er mwyn prif-ffrydio'r defnydd o astudiaethau i gefnogi ymarfer a phenderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Bydd yn profi arferion presennol, yn cynhyrchu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ac yn rhannu gwybodaeth a sgiliau.

Dull amlddisgyblaethol o gau’r ddolen yn economi gylchol Amaethyddiaeth a Bwyd Cymru

Partneriaid: Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Efrog, Prifysgol Herriot-Watt, IntelliDigest Ltd yr Alban, JustOne Organics USA, Arbenigwr Amaethyddiaeth a Systemau Bwyd

Cododd adroddiad System Fwyd ar gyfer Cymru sy’n Addas i Genedlaethau’r Dyfodol bryderon ynghylch y ffaith na all llawer o bobl Cymru fforddio mynediad at ddiet iach a chynaliadwy. Nod y consortiwm hwn yw adolygu argymhellion sy'n cysylltu systemau bwyd, gwella adfywiad pridd, ail-leoli systemau bwyd, cryfhau diogelwch bwyd, a chreu cymhellion economaidd.