Mae ffermwyr dan bwysau i leihau eu heffaith amgylcheddol ac, ar yr un pryd, cynhyrchu digon o fwyd i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Gall ffermio da byw roi pwysau arbennig ar dir. Mae angen ail-hadu a gwrteithio'n aml ar lawer o gaeau a ddefnyddir ar gyfer pori neu dyfu porthiant gaeaf er mwyn cynnal eu cynhyrchiant. Mae hyn yn ddrud i ffermwyr (a defnyddwyr pan drosglwyddir y gost iddynt) ac yn niweidiol i'r amgylchedd.
Mae’r feillionen yn gnwd porthiant llawn protein sy'n sefydlogi nitrogen (yn tynnu nitrogen o'r awyr a'i drawsnewid yn ffurf sy'n hybu twf planhigion) ac yn gwella strwythur a ffrwythlondeb y pridd. Gall fod yn gnwd cydymaith gwerthfawr i laswellt a gall wneud tir amaeth yn fwy cynaliadwy. Fodd bynnag, mae ei ddefnydd yn y DU yn gyfyngedig gan nad yw'n tueddu i bara'n hir.
Roedd y tîm yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth eisiau datblygu mathau mwy hirhoedlog o feillion a fyddai o fudd i ffermwyr a’r amgylchedd.
Datblygu cnydau meillion newydd
Aeth tîm ymchwil IBERS ati i ddatblygu cnydau meillion sy’n cynhyrchu cnwd uchel ac sy’n gwrthsefyll pori, sychder, rhew, plâu a chlefydau, a chystadleuaeth gan y glaswelltir cydymaith.
Drwy gyflwyno nodweddion buddiol o un straen i'r llall, a bridio nodweddion buddiol i mewn drwy ddetholiad rheolaidd, datblygodd y tîm ddau fath newydd o feillion.
Mae AberLasting yn cyfuno rhinweddau maethol y feillionen wen â system wreiddiau danddaearol gref meillionen y Cawcasws. O'i chymharu â’r feillionen wen, mae'n gallu gwrthsefyll pori, sychder a rhew yn well ac mae ganddi werth maethol a chynnyrch uchel.
Mae AberClaret yn ganlyniad i raglen fridio meillion coch a roddodd flaenoriaeth i ddethol cynnyrch uchel a hirhoedledd. O'i gymharu ag 11 math arall o feillion coch, mae'n para'n hirach ac yn rhoi cnwd uwch.
Lleihau allyriadau a gwella ansawdd y pridd
Mae hadau ar gyfer AberLasting ac AberClaret bellach yn cael eu gwerthu’n fasnachol yn y DU, yr UE, Seland Newydd, Awstralia a Chanada.
Yn y mannau y mae'r mathau newydd o feillion yn cael eu tyfu:
- mae angen i ffermwyr ail hadu eu caeau yn llai aml
- mae mwy o nitrogen yn cael ei sefydlogi yn y pridd, felly mae ffermwyr yn defnyddio llai o wrtaith nitrogen ac mae allyriadau N2O a CO2 wedi lleihau
- mae strwythur a ffrwythlondeb y pridd wedi gwella
- mae ansawdd maethol porfeydd a silwair wedi gwella
- gall allbynnau cig a llaeth gynyddu
- mae ffermwyr yn arbed arian ar hadau, gwrtaith a phorthiant ychwanegol.
Pan gaiff ei ddefnyddio fel cnwd saib i fwydo a gorffwys tir rhwng hau, gall AberClaret wella ansawdd a strwythur y pridd a lleihau chwyn mewn cnydau grawn dilynol.
Yn olaf, mae meillion yn darparu cynefin a bwyd i bryfed peillio, felly mae eu defnydd cynyddol yn helpu i warchod bioamrywiaeth glaswelltir.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Leif Skøt, Dr David Lloyd, yr Athro Michael Abberton, yr Athro Athole Marshall a Dr Rosemary Collins o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth.