Gan droi ei chanfyddiadau'n adnoddau a hyfforddiant ymarferol, mae’r Athro Wray wedi gwella arfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd, elusennau a chartrefi gofal yn y DU, UDA, Awstralia a Seland Newydd, gan wella yn y pen draw fywydau pobl â dementia drwy’r gallu i gyfathrebu’n well.

Gwella cyfathrebu â phobl sydd â dementia
Mae gwaith yr Athro Alison Wray ar sut mae effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia yn effeithio ar gyfathrebu yn helpu pobl â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ymdopi â’r heriau o ran cyfathrebu y maen nhw’n eu hwynebu.