Yn dilyn ymlaen o ‘Rydyn ni Gyda’n Gilydd’, a amlygodd gyfraniadau ein haelodau yn ystod y pandemig, mae Sicrhau Canlyniadau yn canolbwyntio ar sut y bydd prifysgolion yn helpu’r wlad i ddod yn ôl yn gryfach yn y pum mlynedd nesaf. 

Roedd yr ymgyrch yn nodi sut y gall partneriaethau prifysgolion greu miloedd o swyddi, busnesau newydd, a ffyniant ledled y DU dros y blynyddoedd i ddod. Mae prifysgolion wedi adnewyddu eu hymrwymiad i weithio'n agos gydag ystod eang o fudiadau a chwilio am bartneriaethau newydd yn genedlaethol ac yn lleol, i greu’r effaith fwyaf phosib.

Ochr-yn-ochr â'r gwaith ymgyrchu, cyhoeddodd Prifysgolion y DU (UUK) y canlynol: 'Prifysgolion ac adferiad economaidd y DU: dadansoddiad o effaith yn y dyfodol', sef adroddiad gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Entrepreneuriaeth mewn Addysg (NCEE).

Yn ôl yr adroddiad, trwy bartneriaethau â busnesau, elusennau a llywodraeth leol, rhagwelir y bydd prifysgolion ledled Cymru’n cyflawni’r canlynol:

  • Darparu gwerth 4,000 o flynyddoedd o uwchsgilio a hyfforddiant i fusnesau ac elusennau
  • Helpu 1,300 o fusnesau ac elusennau newydd i gael eu ffurfio.
  • Hyfforddi 10,000 o nyrsys, 4,000 o feddygon, 8,000 o athrawon.
  • Bod yn rhan o brosiectau adfywio gwerth £536 miliwn i economi Cymru.
Two women looking at a laptop

Partneriaethau rhwng prifysgolion a busnesau bach a chanolig

Ym mis Hydref 2021, roedd cam nesaf yr ymgyrch yn dangos sut mae prifysgolion yn gweithio'n agos gyda busnesau bach a chanolig i hybu twf economaidd ledled y wlad. Nod yr ymgyrch oedd atgoffa gwleidyddion o bwysigrwydd prifysgolion wrth adeiladu gweithlu'r dyfodol, lefelu i fyny a menter. 

Rhoddwyd sylw i straeon am lwyddiant a mewnwelediadau ar wefan UUK ac ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol.