Cenhadaeth

Lansiwyd Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA) ym mis Awst 2023 ac mae'n cwmpasu pob un o'r naw prifysgol yng Nghymru. Mae WAHA yn rhoi cyfle i Gymru gyfan adeiladu partneriaethau dyfnach a chryfach, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth trwy ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch – o ddadansoddiad archifol a thestunol i economïau creadigol a’r meddwl sydd y tu ôl i ddylunio. Mae’r Gynghrair hefyd yn llwyfan ar gyfer eiriolaeth ac actifiaeth sy’n seiliedig ar ein creadigrwydd a’n harbenigedd a rennir ym maes ymchwil ac effaith y celfyddydau a’r dyniaethau sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle i’r celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru gyfrannu’n llawn at ddadleuon cenedlaethol a rhyngwladol ar y celfyddydau a’r dyniaethau a’u gwerth i bobl, cyflogadwyedd, a’r economi mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Nodau strategol

Mae pum elfen i nodau strategol WAHA:

  1. Gweithredu fel llais a rennir ar gyfer y celfyddydau a dyniaethau mewn Addysg Uwch yng Nghymru, gan sicrhau bod manteision cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd y celfyddydau a’r dyniaethau yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall yn eang, a’u rhoi ar waith er budd y genedl.
  2. Llunio polisi ac ymarfer o amgylch y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys casglu data perthnasol ynghyd, a gweithredu fel cydgysylltydd arwyddocaol â Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn ogystal â mudiadau celfyddydol a dyniaethau amlwg, megis Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau (AHRC), a’r Ysgol Astudiaethau Uwch, yn y DU ac yn fyd-eang.
  3. Meithrin partneriaethau rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr ac ysgolheigion ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru a’u cymunedau lleol, sefydliadau cenedlaethol, a rhwydweithiau byd-eang. 4
  4. Rhannu ymchwil ac arloesedd y celfyddydau a dyniaethau mewn Addysg Uwch yn eang trwy rwydweithiau polisi, ymgysylltu â darparwyr addysg statudol, grwpiau cymunedol a'r cyfryngau, yn ogystal â chefnogi ymchwilwyr yng Nghymru ar bob cam o’u gyrfa i ledaenu eu gwaith.
  5. Gwrthweithio canfyddiadau negyddol neu gamarweiniol o’r celfyddydau a’r dyniaethau ac amddiffyn a chadw gwerth y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru ac ar gyfer Cymru.

Ein gwaith

REACH Blaenau Gwent
Storïau Llafar Bawso o bobl Ddu ac ethnig leiafrifol (BME)
Uned Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Torfaen, Pecyn gwaith ymgysylltu a chynnwys dinasyddion
Media Cymru
Cydweithrediad y Gymraeg a cherddoriaeth Maori
Adeiladau Gwydn
FovoRender
Labordy Hinsawdd
Cadw Treftadaeth Ddiwylliannol
Rhwydwaith ymchwil Creu Lle Diogelach
Prosiect Dinasyddion Ecolegol
Prosiect Llwyfan Map Agored Cymunedol (COMP)
Geiriadur Prifysgol Cymru
UNESCO-MOST BRIDGES

Ein haelodau

Yr Athro Anwen Jones, Prifysgol Aberystwyth
Dr Neal Alexander, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Sue Niebrzydowski, Prifysgol Bangor 
Yr Athro Ruth McElroy, Prifysgol Bangor
Dr Debbie Savage, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Andrew Walters, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Claire Gorrara, Prifysgol Caerdydd (cyd-gydeirydd)
Dr Liz Wren-Owens, Prifysgol Caerdydd
Dr Richard Marsden, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Yr Athro Jonathan Bradbury, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Kirsti Bohata, Prifysgol​​​​​​​ Abertawe​​​​​​​ (cyd-gydeirydd)​​​​​​​
Dr James Lea, Prifysgol​​​​​​​ De Cymru (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)
Yr Athro Lisa Lewis, Prifysgol​​​​​​​ De Cymru​​​​​​​
Dr Malcolm MacLean, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant​​​​​​​
Yr Athro Mary-Ann Constantine, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Yr Athro Alec Shepley, Prifysgol Wrecsam
Dr Karen Heald, Prifysgol Wrecsam
Dr Fiona Dakin, Cymdeithas Ddysgedig Cymru