Caiff Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC) ei chynnal gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC), ac mae wedi’i sefydlu yn dilyn cyfarfod yn gynharach y mis hwn lle cydnabu arweinwyr ymchwil y potensial ar gyfer cydweithredu pellach yn y celfyddydau a’r dyniaethau ar draws prifysgolion Cymru. 

Bydd CCDC yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhwng prifysgolion yng Nghymru er mwyn hwyluso rhannu arbenigedd, adnoddau a sgiliau yn fwy effeithiol, a fydd yn hybu uchelgeisiau ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru. Bydd CCDC yn meithrin perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allanol allweddol a gyda grwpiau celfyddydau a dyniaethau cenedlaethol ledled y DU. 

Meddai aelodau gwreiddiol Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru

“Yn dilyn cyfarfod adeiladol a chynhyrchiol ar draws Cymru, mae arweinwyr ymchwil o 9 prifysgol yng Nghymru’n dod at ei gilydd i lansio Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru.  

“Mae’r Gynghrair yn cynrychioli cyfle Cymru-gyfan i adeiladu partneriaeth ddyfnach a chryfach, fydd yn canolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch. Mae'r Gynghrair hefyd yn llwyfan ar gyfer eiriolaeth a gweithredu, sydd wedi'u gwreiddio yn ein creadigrwydd, ein harbenigedd a'n sgiliau cyffredin.  

“Mae’r aelodau a sefydlodd y gynghrair wrth eu bodd yn cymryd y cam arwyddocaol hwn i gynyddu llais y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru ac i gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch gwerth y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar draws Cymru-gyfan mewn byd sy’n newid yn gyflym.” 

Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe

“Pwrpas sylfaenol RhAC oedd cryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru drwy gydweithio ar draws pob un o’n naw prifysgol. Rwyf wrth fy modd felly bod RhAC yn hwyluso datblygiad Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC), sy’n enghraifft wych o bŵer ein hymagwedd at weithio mewn partneriaeth.   

“Fel sector, credwn fod y celfyddydau a’r dyniaethau yn cynrychioli budd cyhoeddus sylweddol, yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â heriau’r gymdeithas gyfoes. Mae CCDC yn cynnig cyfle amserol i dynnu sylw at werth sylweddol y disgyblaethau pwysig hyn yma yng Nghymru, ac i ddatblygu ein heffaith mewn ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn ymhellach.” 

Aelodau CCDC:

PC y Drindod Dewi Sant 

Prifysgol Abertawe 

Prifysgol Aberystwyth 

Prifysgol Bangor 

Prifysgol Caerdydd 

Prifysgol De Cymru 

Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Prifysgol Wrecsam 

Y Brifysgol Agored yng Nghymru