
Datganiad Prifysgolion Cymru ar farwolaeth Hefin David AS
Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:
13 Awst 2025
"Rydym wedi ein tristáu'n fawr o glywed am farwolaeth Hefin David MS.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda Hefin dros y blynyddoedd. Fel cyn-ddarlithydd, roedd yn gefnogwr ac yn eiriolwr mawr dros addysg uwch, yn enwedig yn ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Brifysgolion.
"Yn wleidydd ac ymgyrchydd angerddol, bydd ei farwolaeth yn golled fawr i'r Senedd ac i'r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr."