Yn 2020, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), sefydlodd Prifysgolion Cymru’r prosiect Cennad Ddinesig i ddatblygu a hyrwyddo gwaith cennad ddinesig prifysgolion Cymru ymhellach.

Rhwydwaith Cennad Ddinesig

Fel rhan o'r prosiect, sefydlodd Prifysgolion Cymru’r Rhwydwaith Cennad Ddinesig, ac mae'n parhau i’w gynnal. Fe’i sefydlwyd i alluogi rhannu arfer a gweithio mewn partneriaeth o fewn cymunedau.

Mae'r Rhwydwaith yn cwrdd bob chwarter, ac mae’n cael ei gadeirio gan Lynnette Thomas o'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Fframwaith Cennad Ddinesig

Yn Ionawr 2021, lansiodd y Rhwydwaith y Fframwaith Cennad Ddinesig er mwyn helpu prifysgolion i adeiladu ar y ffyrdd maen nhw'n gweithio gyda phobl, ysgolion a chymunedau.

Mae'r Fframwaith yn galluogi prifysgolion i rannu arfer gorau wrth ddatblygu a chynnal prosiectau cennad ddinesig, ac mae'n cynorthwyo'r sector i ddangos effaith gadarnhaol ei waith ar gennad ddinesig.

Mae’r Fframwaith hwn y cyntaf o'i fath yn y DU, a'r cyntaf yn y byd i gael pob prifysgol mewn gwlad i ymuno â’r fenter; bydd yn rhoi cymorth i brifysgolion ddarparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol trwy ffurfio cysylltiadau mwy clos â chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae'r fframwaith wedi'i seilio ar bum maes gweithredu allweddol:

  • Arwain mewn ardal - ymgysylltu ag arweinwyr dinesig allweddol eraill ar lefel genedlaethol a chymunedol
  • Cyfrannu at godi safonau addysgol trwy ddatblygu cysylltiadau ag ysgolion, colegau ac amgylcheddau dysgu eraill
  • Datblygu dinasyddiaeth weithredol
  • Gweithredu fel sbardun ar gyfer menter gymdeithasol, sgiliau busnes a chyflogadwyedd
  • Ymateb i faterion byd-eang

Am fwy o wybodaeth ar y gwaith mae ein prifysgolion yn ei wneud gyda’u cymunedau, ewch i’r adran astudiaethau achos a dewiswch 'Cennad ddinesig'.