Cenhadaeth AVE yw cyflymu gweithredu ar yr hinsawdd trwy ddarparu systemau DAC defnyddiadwy sy'n ateb anghenion diwydiannau sydd ag allyriadau uchel, gan gefnogi eu taith i sero net. Hyd yn hyn mae AVE wedi codi £800,000 i fwrw ymlaen ag arloesedd a pharatoi eu systemau ar gyfer eu defnyddio.

Mae’r sylfaenwyr Simon Oliver a Matthew Tucker wedi adnabod ei gilydd ers cyn y brifysgol, ond yn synod eu cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Peirianneg Fecanyddol y gwnaethant ddarganfod eu sgiliau cyflenwol a’u hangerdd dros Gipio Aer yn Uniongyrchol (DAC) - partneriaeth sy’n parhau i yrru Air View Engineering yn ei flaen.

“Mae ein hamser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig wrth astudio peirianneg fecanyddol, wedi ein paratoi ar gyfer yr hyn rydym yn ei wneud nawr.

“Roedd y cwrs ei hun – ei strwythur, mynediad i adnoddau a chyfleusterau – yn rhywbeth a oedd yn wirioneddol allweddol i ni, yn enwedig gyda’r agweddau gweithgynhyrchu ychwanegion ac argraffu 3D o’n busnes. Heb hynny ni fyddem lle’r ydym heddiw.”