Achub coedwigoedd mangrof y byd
Mae set ddata fapio newydd a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i ddiogelu a chefnogi’r gwaith o adfywio coedwigoedd mangrof byd-eang.
Mangrofau yw'r unig rywogaeth o goed a all oroesi mewn dŵr hallt. Maent yn tyfu ar hyd arfordiroedd trofannol ac isdrofannol, lle maent yn ecosystem hollbwysig.
Mae coedwigoedd mangrof yn gwneud y canlynol:
- amddiffyn rhag llifogydd a stormydd
- atal erydiad pridd
- amsugno a storio carbon
- darparu cynefin i lawer o rywogaethau
- cynnal pysgodfeydd
- denu twristiaeth
- darparu pren
Fodd bynnag, mae coedwigoedd mangrof ledled y byd o dan fygythiad gan ddatblygu arfordirol, llygredd, a diwydiannau fel torri coed, ffermio berdys a phlanhigfeydd olew palmwydd.
Er mwyn amddiffyn coedwigoedd mangrof a chefnogi’r gwaith o’u hadfywio, mae angen inni wybod yn union ble a phryd y maent yn cael eu colli.
Mapio coedwigoedd mangrof byd-eang
Datblygodd grŵp ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Deinameg Ecosystemau ym Mhrifysgol Aberystwyth ffordd o fapio coedwigoedd mangrof byd-eang a chofnodi newidiadau. Gwnaethant gynhyrchu llinell sylfaen fyd-eang newydd o ehangder mangrofau a chreu meddalwedd i gyflenwi setiau data Gwylio Mangrofau Byd-eang, a oedd yn gwneud y canlynol:
- darparu gwaith mapio byd-eang safonol o ehangder mangrofau a newidiadau dros sawl cyfnod
- darparu rhybuddion colli mangrofau, bron mewn amser real, ar gyfer coedwigoedd lleol
Bu'r tîm hefyd yn gweithio gyda Wetlands International yn Tanzania a Senegal, gan gynnal hyfforddiant ar sut i ddefnyddio setiau data Gwylio Mangrofau Byd-eang. Dangosodd y tîm sut i ddefnyddio apiau symudol a dronau bach i staff lleol fel y gallant fonitro a chofnodi newidiadau i ecosystemau mangrofau.
Mae Gwylio Mangrofau Byd-eang yn darparu mapiau byd-eang o ehangder mangrofau ac yn nodi newidiadau sy’n arwyddocaol i gymunedau lleol. Mae mapiau ar gyfer canol y 1990au, 2007-2010 a 2015-2016 wedi'u cynhyrchu, ynghyd â rhybuddion colli mangrof misol ar gyfer cyfandir Affrica. Fel arall ni fyddai’r wybodaeth hon ar gael i wledydd sydd â chapasiti cyfyngedig i brosesu data synwyryddion lloerennau.
Mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn defnyddio data Gwylio Mangrofau Byd-eang i olrhain cynnydd tuag at Nod Datblygu Cynaliadwy 6.6.1, sy'n anelu at atal diraddio a dinistrio ecosystemau sy'n gysylltiedig â dŵr a chynorthwyo adferiad y rhai sydd eisoes wedi diraddio. Mae ganddynt ap SDG661 bellach, sy'n defnyddio data Gwylio Mangrofau Byd-eang i roi data clir a chywir i wledydd ar ecosystemau mangrof.
Mae llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol yn defnyddio data Gwylio Mangrofau Byd-eang i wneud y canlynol:
- monitro ehangder mangrofau
- nodi a deall beth sy'n achosi colli mangrofau
- asesu a gwella gwasanaethau ecosystemau
- llywio’r gwaith o adfer a gwarchod mangrofau
- cynyddu gwaith cadwraeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig
- rheoli coedwigoedd a physgodfeydd mewn modd cynaliadwy
- dylanwadu ar benderfyniadau a wneir
- llywio polisïau cyhoeddus
- cael gafael ar gyllid
Mae data Gwylio Mangrofau Byd-eang yn dangos bod cyfraddau blynyddol colli coedwigoedd mangrof wedi gostwng o -0.23% rhwng 1996 a 2010 i -0.09% rhwng 2010 a 2016.
Mae'r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid i barhau â'u hymchwil. Maent yn defnyddio'r cyllid hwn i ehangu cwmpas daearyddol y rhybuddion colli mangrofau misol, wrth wneud y system yn fwy sensitif, nodi mwy o golledion mewn ecosystemau mangrof, gwneud y cynhyrchion mapio yn fwy manwl a chynhyrchu mapiau blynyddol ar gyfer blynyddoedd eraill.
Y tîm ymchwil
Dr Pete Bunting a'r Athro Richard Lucas – Grŵp Ymchwil Arsylwi'r Ddaear a Deinameg Ecosystemau (EOED) Prifysgol Aberystwyth.