Mae'r gronfa o £90k wedi'i sefydlu i gefnogi cennad WIN o harneisio cryfderau prifysgolion Cymru i gynorthwyo twf mewn incwm ymchwil allanol a sicrhau effaith i Gymru.

Bydd grantiau bach yn cael eu darparu fel cyllid ar gyfer datblygu cais i gyllidwyr allanol o fewn y DU, Ewrop neu’n rhyngwladol. Bydd grantiau'n ariannu gwaith grwpiau ymchwil ac arloesi cydweithredol yng Nghymru, yn seiliedig ar feysydd o gryfder cydnabyddedig. Byddai grwpiau cymwys yn cynnwys:

  • Grwpiau ymchwil cydweithredol newydd neu sy’n bodoli eisoes, sydd wedi nodi meysydd ymchwil sydd â photensial sylweddol ar gyfer twf, ond sydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau cais am gyllid.
  • Grwpiau cydweithredol a fu’n llwyddiannus o’r blaen yn sgil cyllid WIN o £2m yn 2022, sydd erbyn hyn angen cyllido pellach i helpu â chyflwyno cais am gyllid allanol.

Bydd Cymru Fyd-eang yn darparu £50k o gyfanswm y cyllido grant bach sydd ar gael. O'r swm hwn bydd £30k ar gael i gefnogi ceisiadau sy’n cynnwys partneriaid Ewropeaidd, gyda'r £20k sy'n weddill ar gael ar gyfer cynigion sy'n cynnwys mentrau cydweithredol gyda Gogledd America.

Croesewir ceisiadau cymwys gan holl ddarparwyr addysg uwch Cymru. Mae uchafswm o £5k ar gael ar gyfer pob cais sy’n cynnwys partneriaid yng Nghymru’n unig, ac mae £10k ar gael ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys partner(iaid) rhyngwladol.

Lawrlwythwch fwy o wybodaeth am y gronfa a'r broses ymgeisio

I wneud cais am grant bach WIN, anfonwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i innovation.network@uniswales.ac.uk erbyn 5ed Ebrill 2023. Bydd cyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan WIN a bydd penderfyniadau’n cael eu rhannu gydag ymgeiswyr erbyn 26ain Ebrill 2023.